Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) Rhondda Cynon Taf
Cliciwch yma am Saesneg / Click here for English

Mae Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) Rhondda Cynon Taf (RhCT) yn credu bod profiad bywyd – yr hyn mae pobl yn ei weld ac yn ei brofi yn eu bywydau bob dydd – yr un mor werthfawr â ffeithiau, ffigurau a barn arbenigwyr.
Wedi'i leoli yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol RhCT, ein nod yw gwella sut mae pob math o dystiolaeth yn cael ei ddefnyddio wrth wneud penderfyniadau. Rydyn ni eisiau deall achosion sylfaenol anghydraddoldebau iechyd (dolen allanol) ledled RhCT yn well, a mynd i'r afael â nhw.
Dyna pam rydyn ni'n gwahodd trigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau i helpu i lywio dyfodol gwasanaethau a pholisïau lleol.
Cymerwch eich cam cyntaf er mwyn ‘Gwneud Newid’ drwy fynd i: https://gwnewchnewidyn.rctcbc.gov.uk/
Edrychwch ar ein Cacen Dystiolaeth (link) i weld sut rydyn ni'n cyfuno gwahanol fathau o dystiolaeth.
Beth yw 'Gwnewch Newid'?
Llwyfan ar-lein CYBI RhCT yw 'Gwnewch Newid', lle gallwch chi:
- Pori drwy'r prosiectau cyfredol (dolen allanol) a darllen y newyddion diweddaraf
- Dod yn rhan o bethau (dolen allanol) a defnyddio eich profiad personol i helpu i lywio newid
- Gweld sut mae eraill yn cyfrannu a sut mae gwahanol fathau o dystiolaeth yn cael eu defnyddio
- Cyrchu adnoddau (dolen allanol) i'ch helpu i ddeall a defnyddio tystiolaeth wrth wneud penderfyniadau
Sut i ddod yn rhan o bethau
Mae sawl ffordd o gymryd rhan:
- Dod yn ymgynghorwr profiad bywyd (dolen allanol) – rhannu'ch stori a helpu i lunio prosiectau ystyrlon
- Ymuno'n sefydliad partner cymunedol (dolen allanol) – a chynnig eich arbenigedd a'ch sgiliau
- Mynychu clinigau cymunedol (dolen allanol) – cymryd rhan mewn trafodaethau agored am anghydraddoldebau iechyd a chynnydd prosiectau
Mae ein holl gyfleoedd wedi'u rhestru ar ein tudalen Cyfleoedd (dolen allanol), gyda manylion am ymrwymiadau amser, y gefnogaeth a'r tâl sydd ar gael i'r rhai sy'n cymryd rhan.
Ein nod yw sicrhau bod cymryd rhan yn hygyrch i bawb.
Pam mae'ch llais yn bwysig
Wrth gymryd rhan, byddwch chi'n helpu i:
- Llunio gwasanaethau sy'n adlewyrchu anghenion go iawn y gymuned
- Dylanwadu ar bolisi drwy rannu'ch profiad bywyd a'ch gwybodaeth am faterion lleol
- Creu RhCT sy’n decach ac iachach i bawb
Eisiau darllen rhagor?
Ewch i https://gwnewchnewidyn.rctcbc.gov.uk/ (dolen allanol) neu anfon e-bost at:
Ffôn: 07385 401839
Cyfeiriad Post: CYBI RhCT, Tŷ Elái, Heol Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, Tonypandy, CF40 1NY.
Ein horiau gwaith yw dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm (ac eithrio gwyliau banc).
