Dewch i Siarad am y Gyllideb 2025-2026 (Cam 2)

Rhannu Dewch i Siarad am y Gyllideb 2025-2026 (Cam 2) ar Facebook Rhannu Dewch i Siarad am y Gyllideb 2025-2026 (Cam 2) Ar Twitter Rhannu Dewch i Siarad am y Gyllideb 2025-2026 (Cam 2) Ar LinkedIn E-bost Dewch i Siarad am y Gyllideb 2025-2026 (Cam 2) dolen

Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi dod i ben. Mae canlyniadau'r prosiect yma bellach yn cael eu dadansoddi. Byddwn ni'n ychwanegu dolenni i adroddiadau a rhagor o wybodaeth pan maen nhw ar gael.

Ar 11 Rhagfyr 2024, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai Llywodraeth Cymru Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro 2025/26. Dyma'r cyllid mae cynghorau ledled Cymru yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n ffurfio prif ran ein cyllideb flynyddol.

Mae'r setliad terfynol ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn dangos cynnydd o +4.8%, sy'n uwch na'r cyfartaledd ledled Cymru (+4.3%).

Mae'r setliad cyffredinol yn llawer mwy cadarnhaol nag a ragwelwyd a bydd yn darparu cyllid ychwanegol i Gyngor Rhondda Cynon Taf, fel pob Cyngor ledled Cymru, ond mae ein pwysau ar y gyllideb a gwariant wedi parhau i gynyddu. Mae'r rhagolygon y tu hwnt i 2025/26 yn parhau i fod yn ansicr ac yn seiliedig ar y sefyllfa bresennol mae'r sefyllfa ariannol yn debygol o barhau i fod yn heriol.

O fwlch cyllidebol gwreiddiol wedi’i fodelu (sef y gwahaniaeth rhwng faint y mae angen i ni ei wario a faint o gyllid sydd gennym ni) o £35.7 miliwn ym mis Medi 2024, rydyn ni bellach yn wynebu bwlch cyllidebol o £6.8 miliwn o ganlyniad i gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru drwy'r setliad dros dro a rhaglen waith sylweddol a gyflawnwyd ar draws y Cyngor i nodi mesurau i leihau'r gyllideb.

Rhaid i ni wneud penderfyniadau a chymryd camau i sicrhau bod ein cyllideb ar gyfer 2025/26 yn deg i bawb, yn diogelu ein gwasanaethau allweddol ac yn sicrhau na fyddwn ni mewn sefyllfa waeth y flwyddyn nesaf.

Diweddaru: 10 Chwef 2025, 10:21 AC