Dewch i Siarad am y Gyllideb 2025-2026 (Cam 1)

Rhannu Dewch i Siarad am y Gyllideb 2025-2026 (Cam 1) ar Facebook Rhannu Dewch i Siarad am y Gyllideb 2025-2026 (Cam 1) Ar Twitter Rhannu Dewch i Siarad am y Gyllideb 2025-2026 (Cam 1) Ar LinkedIn E-bost Dewch i Siarad am y Gyllideb 2025-2026 (Cam 1) dolen

Roedd yr ymghynghoriad yma wedi cael ei gynnal rhwng 31.10.2024 a 12.12.2025. Mae modd ichi ddarllen ein adroddiad ymgynghoriad yma. Mae modd ichi ddarllen adroddiad y cabinet yma.

Rydyn ni'n cynllunio ein Cyllideb ar gyfer 2025 – 2026

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (y Cyngor) yn gyfrifol am lawer o'r gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl sy'n byw yn RhCT yn eu defnyddio o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys gofal cymdeithasol a gwasanaethau i’r henoed, canolfannau hamdden, theatrau, llyfrgelloedd, glanhau strydoedd a chasglu gwastraff, trwyddedu, parciau a darparu cyllid i’n hysgolion a gweithio mewn partneriaeth â nhw i ddarparu addysg o ansawdd uchel i blant a phobl ifainc.

Mae angen llawer o staff i gyflawni hyn i gyd (ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn cyflogi dros 10,000 o bobl, y rhan fwyaf ohonyn nhw'n byw yn RhCT) a llawer o arian hefyd. Mae'r Cyngor yn cael arian gan Lywodraeth Cymru (78%), Treth y Cyngor a gesglir (21%) a Chronfeydd Wrth Gefn y Cyngor sy'n cael eu defnyddio ochr yn ochr. Serch hynny, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf dydy swm y cyllid y mae'r Cyngor wedi'i dderbyn ddim wedi cynyddu yn unol â'r gost o gynnal gwasanaethau a bu'n rhaid i'r Cyngor fynd i'r afael â bylchau sylweddol yn y gyllideb. Mae disgwyl i'r darlun yma barhau, gyda'r Cyngor yn rhagweld bwlch yn y gyllideb o £35 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf (Ebrill 2025 i Fawrth 2026).

Mae dolenni i ragor o wybodaeth am gyllid y Cyngor ar ochr dde'r dudalen yma. Mae modd i chi hefyd ddarllen am ba wasanaethau y mae'r Cyngor yn gyfrifol amdanyn nhw, a chael gwybod ble a phryd y byddwn ni'n siarad yn uniongyrchol â phobl yn RhCT am y Gyllideb.

Bydden ni'n ddiolchgar iawn am eich barn am y Gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf (mae’r flwyddyn ariannol yn rhedeg o Ebrill 2025 i Fawrth 2026). Cliciwch yma i gymryd rhan yn ein harolwg, a beth am roi cynnig ar ein hofferyn Cydbwyso Cyllideb rhyngweithiol, lle mae modd i chi weld sut mae'n rhaid cydbwyso buddsoddi mwy mewn rhai gwasanaethau yn erbyn gwneud arbedion mewn meysydd eraill.

Byddwn ni'n edrych ar yr holl adborth a sylwadau sy'n dod i law wrth i ni weithio ar y cynllun Cyllideb newydd, a elwir yn Strategaeth Gyllideb. Bydd eich barn, ynghyd â gwaith manwl staff, rheolwyr ac arweinwyr y Cyngor, yn rhan allweddol o'n penderfyniadau.

Ar ôl y cam cyntaf yma byddwn ni'n datblygu Strategaeth Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2025-26. Byddwn ni hefyd yn cyhoeddi’r adroddiad ar yr ymgynghoriad yma, fel bod modd i chi weld yr hyn a ddywedodd pobl wrthon ni a sut y gwnaeth hynny lywio’r gwaith ar y Strategaeth Ddrafft. Bydd Cam Dau'r Ymgynghoriad ar y Gyllideb yn dechrau ddiwedd Ionawr / dechrau Chwefror 2025.

Diolch am eich amser ac am eich barn!

CLICIWCH YMA AM YR AROLWG
CLICIWCH YMA AM YR OFFERYN CYDBWYSO'R GYLLIDEB

Diweddaru: 03 Chwef 2025, 04:07 PM