Rhannu Dewch i Siarad Tonypandy ar FacebookRhannu Dewch i Siarad Tonypandy Ar TwitterRhannu Dewch i Siarad Tonypandy Ar LinkedInE-bost Dewch i Siarad Tonypandy dolen
STRATEGAETH NEWYDD AR GYFER CANOL TREF TONYPANDY
Ar hyn o bryd mae Cyngor Rhondda Cynon Taf, ynghyd â'r Urbanists, yn datblygu Strategaeth Canol Tref Tonypandy a fydd yn helpu i ganolbwyntio buddsoddiad yng nghanol y dref yn y dyfodol. Nod y strategaeth yw cryfhau'r economi a gwella amodau diwylliannol ac amgylchiadol ar gyfer trigolion ac ymwelwyr.
Hoffen ni glywed eich barn. Yn rhan o'r gwaith i ddatblygu Strategaeth Canol Tref Tonypandy, byddwn ni'n cynnal ymgysylltiad cychwynnol â defnyddwyr canol y dref, busnesau a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddeall y cryfderau, gwendidau, heriau a chyfleoedd allweddol sy'n bodoli yng Nghanol Tref Tonypandy. Hoffen ni ddeall ac ymateb i anghenion defnyddwyr canol y dref.
PAM RYDYN NI'N YMGYNGHORI
Er mwyn galluogi'r cyhoedd i wneud sylwadau am, a chyfrannu at, Strategaeth Canol Tref Tonypandy.
Nodwch fod rhaid derbyn pob arolwg sydd wedi'i gwblhau erbyn hanner nos ddydd Mercher, 28 Chwefror 2025 fan bellaf. Fyddwn ni ddim yn ystyried arolygon sy'n dod i law ar ôl y dyddiad yma.
DEILLIANNAU DISGWYLIEDIG
Bydd yr ymgysylltiad cychwynnol yn digwydd rhwng Rhagfyr 2024 a Chwefror 2025. Bydd yr adborth o'r ymgysylltiad yn llywio drafft cyntaf o Strategaeth Canol Tref Tonypandy.