Rhannu Gadewch i ni Siarad am Deithio Llesol ar FacebookRhannu Gadewch i ni Siarad am Deithio Llesol Ar TwitterRhannu Gadewch i ni Siarad am Deithio Llesol Ar LinkedInE-bost Gadewch i ni Siarad am Deithio Llesol dolen
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ei Fap Rhwydwaith Teithio Llesol.
Caiff y term Teithio Llesol ei ddefnyddio i ddisgrifio'r siwrneiau byr y mae pobl yn eu gwneud bob dydd, naill ai ar droed neu ar feic megis mynd i'r gwaith, i'r ysgol, i'r siopau ac i gyfleusterau eraill. Mae modd i hyn hefyd fod yn berthnasol i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn neu gymhorthion symudedd eraill. Dydy Teithio Llesol ddim yn cyfeirio at deithiau mae pobl yn eu gwneud am resymau hamdden, megis cerdded neu feicio yng nghefn gwlad.
Hoffai'r Cyngor ehangu a gwella ansawdd a darpariaeth llwybrau teithio llesol ledled Rhondda Cynon Taf, a bydd yr arolwg yma'n ein helpu ni i wneud hynny.
Mae'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn dangos llwybrau Teithio Llesol presennol mae modd eu defnyddio i gyrraedd cyfleusterau lleol yn ogystal â llwybrau newydd arfaethedig, yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniodd y Cyngor sawl blwyddyn yn ôl yn dilyn ymarfer ymgynghori blaenorol. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen astudiaethau pellach ar y llwybrau penodol yma i edrych ar ddyluniad y llwybrau a'r effaith beirianyddol ac amgylcheddol. Rydyn ni wedi ceisio sicrhau bod yr holl lwybrau yma'n cysylltu i ffurfio rhwydwaith a fydd yn galluogi trigolion i gyrraedd cyfleusterau cyfagos o'u cymunedau mewn modd diogel a chyfleus. Mae'r map hefyd yn dangos gwybodaeth ychwanegol i roi cymorth i gerddwyr, pobl sy'n defnyddio cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn a beicwyr.
I gymryd rhan, byddwch cystal â bwrw golwg ar ein tudalennau Cwestiynau Cyffredin (wedi'u rhestru o dan 'Dogfennau' ar yr ochr dde) a'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol cyn cwblhau holiadur yr arolwg. Byddai'r Cyngor yn croesawu eich sylwadau. Mae modd gwneud sylwadau drwy glicio ar y ddolen i'r arolwg isod. Byddwn ni hefyd yn ymweld â nifer o leoliadau cyhoeddus yn Rhondda Cynon Taf. Gweler y 'DYDDIADAU ALLWEDDOL' am ragor o wybodaeth.
Mae'r arolwg yn cael ei gynnal rhwng 29 Mai 2026 a 20 Awst 2026.