Panel y Dinasyddion
Yn rhan o'n Strategaeth Cynnwys ac Ymgysylltu newydd, rydyn ni'n parhau i weithio ar ffyrdd y mae modd i drigolion fod yn rhan o'r penderfyniadau sy'n cael effaith arnoch chi, eich teulu, eich ffrindiau a'ch cymdogion. Rydyn ni'n datblygu ein Panel y Dinasyddion ac yn gwahodd trigolion lleol i ymuno â ni a chwarae rhan allweddol wrth wella bywydau yr unigolion sy'n gweithio ac yn byw yn Rhondda Cynon Taf.
Beth yw Panel y Dinasyddion?
Mae Panel y Dinasyddion yn grŵp amrywiol o drigolion sy'n rhannu'u safbwynt a barn ar nifer o benderfyniadau sy'n cael effaith ar ein cymuned. Ar ôl ymuno â'r panel, bydd gyda chi gyfle i:
- Dylanwadu ar benderfyniadau: Dweud eich dweud er mwyn llywio polisïau a gwasanaethau'r Cyngor.
- Cael yr wybodaeth ddiweddaraf: Derbyn diweddariadau rheolaidd mewn perthynas â phenderfyniadau pwysig a mentrau'r Cyngor sy'n digwydd yn y gymuned leol.
- Ymgysylltu â'ch cymuned: Cyfathrebu â thrigolion eraill a bod yn rhan o drafodaethau ystyrlon.
Beth i'w ddisgwyl?
Fel aelod o Banel y Dinasyddion, byddwch chi'n cael eich gwahodd yn rheolaidd i gwblhau arolygon ar-lein ac mae'n bosibl y cewch chi'ch gwahodd i gyfarfodydd wyneb yn wyneb neu grwpiau ffocws bob chwarter. Chi sy'n cael dewis pa weithgareddau i gymryd rhan ynddyn nhw, a pha mor aml rydych chi'n cymryd rhan. Bydd eich adborth dienw yn cael ei gynnwys mewn adroddiad a'i rannu â Chynghorwyr ac uwch reolwyr y Cyngor. Bydd yr wybodaeth yma'n llywio proses gwneud penderfyniadau'r Cyngor ac yn helpu i wella bywydau'r unigolion hynny sy'n gweithio ac yn byw yn ein Bwrdeistref Sirol.
Pam ymuno?
- Gwneud gwahaniaeth: Gall eich mewnbwn arwain at newidiadau cadarnhaol yn ein cymuned.
- Dweud eich dweud: Sicrhau bod eich barn yn cael ei hystyried yn ystod y broses gwneud penderfyniadau.
- Dysgu a ffynnu: Deall llywodraethu lleol a datblygu sgiliau newydd.
Sut i ymuno?
Mae ymuno â Phanel y Dinasyddion yn hawdd. Rydyn ni'n croesawu trigolion Rhondda Cynon Taf dros 16 oed. Cwblhewch ein ffurflen gofrestru ar-lein i ymuno.
Ffyrdd eraill o gymryd rhan
Yn ogystal â Phanel y Dinasyddion, mae ffyrdd eraill o ddweud eich dweud:
- Ymgynghoriadau ar-lein
- Ymgynghoriadau wyneb yn wyneb
- Cyfarfodydd agored y Cyngor
- Rhaglenni Gwaith Pwyllgorau'r Cyngor
- Pwyllgor y Cabinet
- Pwyllgorau Craffu
- Pwyllgor Cynllunio a Datblygu
Dysgwch ragor am ein Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus.