Dewch i Siarad am y Newid yn yr Hinsawdd
Parhau â'n Sgwrs am Newid yn yr Hinsawdd
Mae yna lawer o bethau arbennig am ein Bwrdeistref Sirol. Mae gyda ni ardaloedd mawr o gefn gwlad a choetir ac mae'n gartref i lawer o fywyd gwyllt, gan gynnwys rhai planhigion ac anifeiliaid prin. Efallai bydd ein hen byllau glo yn gallu ein helpu i gynhyrchu ein hynni ein hunain yn y dyfodol.
Rydyn ni'n wynebu amseroedd heriol. Mae'r tymheredd yn codi ledled y byd. Yng Nghymru, mae hyn yn golygu y byddwn ni'n cael gaeafau gwlypach a hafau sychach, felly gallwn ddisgwyl rhagor o lifogydd a thywydd poeth.
Rydyn ni fel Cyngor am wneud mwy i chwarae ein rhan i amddiffyn y blaned a'n Bwrdeistref Sirol rhag effeithiau'r cynhesu yma, heddiw ac yn y dyfodol.
Rydyn ni'n anelu at fod yn Gyngor Carbon Niwtral erbyn 2030. Rydyn ni hefyd am sicrhau fod y Fwrdeistref Sirol mor agos â phosibl at fod yn Garbon Niwtral.
Byddwn ni'n mynd o gwmpas cymunedau yn Rhondda Cynon Taf ac yn siarad â chi am sut mae modd i ni wneud hyn pan fydd yn ddiogel gwneud hynny. Tan hynny, byddwn ni wrth ein bodd petaech chi yn ein helpu i ddod o hyd i ffyrdd gwell o chwarae ein rhan yn ogystal â dweud wrth bawb am y pethau gwych y mae pobl a chymunedau eisoes yn eu gwneud yn y Fwrdeistref Sirol. Mae modd gwneud hyn trwy:
- Rhannu eich syniadau gyda ni ynglŷn â sut mae modd i bawb wneud mwy.
- Ateb 3 cwestiwn yn yr arolygon barn cyflym am Newid Hinsawdd yn Rhondda Cynon Taf;
- Ychwanegu unrhyw brosiectau Newid Hinsawdd yn eich ardal chi at y map isod.
Sut rydyn ni i gyd yn mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd?
Dywedwch wrthon ni am unrhyw weithgareddau neu brosiectau Newid yn yr Hinsawdd yn eich ardal chi
Mae modd i drigolion a grwpiau lleol fod yn weithgar iawn yn y gymuned. Rydyn ni eisiau clywed am unrhyw weithgareddau y mae modd i ni eu rhannu ag eraill neu eich helpu chi i ddatblygu ymhellach.
Ewch ati i ollwng pin ar y map a dweud wrthon ni am y gweithgaredd, cliciwch fotwm '+' ar yr ochr chwith.