Dewch i Siarad am Flodau Gwyllt

Rhannu ar Facebook Rhannu ar Twitter Rhannu ar LinkedIn E-bostiwch y ddolen hon

Efallai nad oeddech chi wedi sylweddoli, ond mae'n debygol iawn eich bod chi'n byw wrth ymyl rhai o'r glaswelltiroedd a'r rhostiroedd cyfoethocaf yn Ne Cymru.

Gyda'i dirwedd gyfoethog ac amrywiol, nid yn unig o ran hanes y mae Rhondda Cynon Taf yn gyfoethog – mae hefyd yn llawn planhigion, ffyngau, pryfed ac anifeiliaid rhyfeddol. O borfeydd y Rhos i orlifdiroedd, mae yna amrywiaeth helaeth o flodau gwyllt brodorol yn aros i gael eu darganfod. Hefyd felly y glaswellt yn ein parciau, safleoedd cefn gwlad, mynwentydd, tiroedd ysgolion ac ymylon ffyrdd.

Mae modd i laswelltiroedd chwarae rhan fawr o ran dal a storio carbon. Dyna'r rheswm mae mor bwysig eu rheoli a'u cadw. Yn RhCT, caiff tua 130 hectar o dir ei reoli ar gyfer blodau gwyllt (10ha yn fwy na'r llynedd); mae hynny gyfwerth â tua 136 o gaeau stadiwm y Mileniwm ac rydyn ni'n gobeithio ychwanegu rhagor at hyn y flwyddyn nesaf.

Rydyn ni'n defnyddio dau ddull o reoli: pori er lles cadwraeth a dull 'lladd gwair'. Mewn ardaloedd addas, mae nifer fach o dda byw, gwartheg fel arfer, yn pori'r caeau am ran o'r flwyddyn. Ar ymylon ffyrdd a pharciau, caiff glaswellt ei dorri yn yr hydref a chaiff y toriadau eu casglu. Caiff y toriadau eu defnyddio i greu pentyrrau cynefin ('pentyrrau eco'), a chaiff rhain eu defnyddio yn ddiweddarach gan ymlusgiaid a mamaliaid bach. Lle nad yw hyn yn bosibl, caiff y glaswellt sydd wedi'i dorri ei gludo i'n canolfan ailgylchu gwastraff gwyrdd agosaf.
Mae'r ddau ddull o reoli yn gweddu i'n blodau gwyllt, gan ganiatáu iddyn nhw flodeuo a gosod hadau, a chael gwared ar rywfaint o'r glaswellt sy'n cystadlu ac yn mygu.

Cymerwch ran yn ein sgwrs ddiweddaraf trwy wneud y canlynol:

-Cymryd rhan yn ein Harolygon Barn Byr

-Plotio ardaloedd yn RhCT ar ein map rhyngweithiol rydych chi o'r farn y dylid eu hystyried ar gyfer rheoli blodau gwyllt, a phostio'ch lluniau o'r blodau gwyllt rydych chi wedi'u gweld yn ddiweddar neu wedi'u gweld o'r blaen yn eich ardal.

-Rhannu'ch syniadau gyda ni o ran sut rydych chi'n rheoli'ch gardd / ardal awyr agored ar gyfer blodau gwyllt.

I ddysgu rhagor am reoli blodau gwyllt, edrychwch ar ein hadran 'Dogfennau Defnyddiol' ar yr ochr dde sy'n cynnwys canllaw defnyddiol a daflen ffeithiau Jac Y Neidiwr.

Enwebwch ardal yn RhCT i'w hystyried ar gyfer rheoli blodau gwyllt y flwyddyn nesaf

Bron 3 Blynyddoedd

Os ydych chi'n meddwl bod yna ardal yn RhCT y dylid ei hystyried ar gyfer rhaglen rheoli blodau gwyllt y flwyddyn nesaf, defnyddiwch y map yma i roi gwybod i ni. Wrth ystyried ardaloedd ar gyfer rhaglen y flwyddyn nesaf mae angen i ni ystyried nifer o ffactorau gan gynnwys iechyd a diogelwch, felly fydd hi ddim yn bosibl cynnwys pob ardal sy’n cael ei nodi ond rydyn ni'n croesawu pob awgrym. 

Gollyngwch bin ar y map a rhowch wybod i ni pam rydych chi'n meddwl y dylid ystyried yr ardal yma, yna cliciwch y botwm + ar yr ochr chwith.

Defnyddiwch y map i rannu'ch lluniau o Flodau Gwyllt rydych chi wedi'u gweld o amgylch RhCT. Gollyngwch y pin yn y lleoliad ac ychwanegwch eich llun a'ch sylwadau.

Diweddaru: 25 Awst 2021, 04:28 PM