Cam 2 Cyllideb 2026 - 2027

Rhannu Cam 2 Cyllideb 2026 - 2027 ar Facebook Rhannu Cam 2 Cyllideb 2026 - 2027 Ar Twitter Rhannu Cam 2 Cyllideb 2026 - 2027 Ar LinkedIn E-bost Cam 2 Cyllideb 2026 - 2027 dolen

Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi dod i ben. Mae canlyniadau'r prosiect yma bellach yn cael eu dadansoddi. Byddwn ni'n ychwanegu dolenni i adroddiadau a rhagor o wybodaeth pan maen nhw ar gael.

Ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2025, fe wnaethon ni ofyn i bobl sy'n byw ac yn gweithio yn RhCT am eu barn nhw ynglŷn â'r hyn roedden nhw'n dymuno i ni ei ystyried yn rhan o'r Strategaeth Gyllideb. Mae modd i chi weld adroddiad yr ymgynghoriad hwnnw yma.

Ar 20 Ionawr 2026, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Setliad Llywodraeth Leol terfynol ar gyfer 2026/27. Dyma'r cyllid mae Cynghorau ledled Cymru yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n ffurfio prif ran ein cyllideb flynyddol.

Mae'r setliad terfynol ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn dangos cynnydd o 4.5%, sydd yr un fath â'r cyfartaledd ledled Cymru.

Mae'r setliad cyffredinol yn well na'r hyn a ddisgwyliwyd a bydd yn darparu cyllid ychwanegol i Gyngor Rhondda Cynon Taf, fel pob Cyngor ledled Cymru. Fodd bynnag, mae'r pwysau rydyn ni'n eu hwynebu o ran y gyllideb a gwariant wedi parhau i gynyddu. Mae'r rhagolygon y tu hwnt i 2026/27 yn parhau i fod yn ansicr ac mae'r wybodaeth sydd gyda ni ar hyn o bryd yn awgrymu y bydd yn parhau i fod yn heriol.

Yn rhan o'n cyfrifiadau cychwynnol, a luniwyd ym mis Medi 2025, nodwyd y byddwn ni'n wynebu bwlch yn y gyllideb (sef y gwahaniaeth rhwng y swm o arian sydd ei angen arnom ni a'r cyllid sydd gyda ni) gwerth £22.5 miliwn y flwyddyn nesaf. O ganlyniad i gyllid ychwanegol sydd wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru drwy'r setliad ac yn sgil rhaglen waith sylweddol sydd wedi'i chynnal ym mhob rhan o'r Cyngor i nodi arbedion posibl, rydyn ni bellach yn wynebu bwlch yn y gyllideb gwerth £6.4 miliwn.

Mae Uwch Reolwyr y Cyngor wedi ystyried yr holl wybodaeth yma, gan gynnwys adborth o gam 1 yr ymgynghoriad. Maen nhw hefyd wedi llunio cyfres o gynigion y mae modd i Aelodau Etholedig eu darllen a'u trafod cyn pleidleisio mewn perthynas â'r mater. Bydd hyn yn digwydd yn ystod y cyfarfod o'r Cyngor Llawn sy'n cael ei gynnal ar 4 Mawrth 2026.

Mae gan bobl sy'n byw ac yn gweithio yn RhCT gyfle i gymryd rhan yn ail gam yr ymgynghoriad cyn y cyfarfod hwnnw. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i chi am rannu eich barn a'ch safbwyntiau mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol nesaf (Ebrill 2026 - Mawrth 2027) – manteisiwch ar y cyfle i ddweud eich dweud trwy gwblhau'r arolwg isod.

Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad yma'n cael eu rhannu ar y dudalen hon yn rhan o adroddiad cyn gynted ag y byddan nhw'n barod.

Diweddaru: 12 Chwef 2026, 05:08 PM