Cyllideb 2026 - 2027 (Cam 1)

Rhannu Cyllideb 2026 - 2027 (Cam 1) ar Facebook Rhannu Cyllideb 2026 - 2027 (Cam 1) Ar Twitter Rhannu Cyllideb 2026 - 2027 (Cam 1) Ar LinkedIn E-bost Cyllideb 2026 - 2027 (Cam 1) dolen

Rydyn ni'n cynllunio ein Cyllideb ar gyfer 2026 – 2027

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (y Cyngor) yn gyfrifol am nifer o'r gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf yn eu defnyddio o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys gofal cymdeithasol a gwasanaethau i'r henoed, canolfannau hamdden, theatrau, llyfrgelloedd, glanhau strydoedd a chasglu gwastraff, trwyddedu, parciau a darparu cyllid i'n hysgolion yn ogystal â gweithio mewn partneriaeth â nhw i ddarparu addysg o ansawdd uchel i'n plant a phobl ifainc.

Er mwyn gwneud hyn, mae angen llawer o staff (mae'r Cyngor yn cyflogi dros 10,000 o bobl, gyda'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n byw yn RhCT) a llawer o arian. Daw'r arian yma o Lywodraeth Cymru (79%) a Threth y Cyngor (21%), a phan fo angen, mae'r Cyngor yn defnyddio ei gronfeydd wrth gefn. Fodd bynnag, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf nid yw swm y cyllid y mae'r Cyngor wedi'i dderbyn wedi cynyddu yn unol â chostau cynnal gwasanaethau ac o ganlyniad i hyn, mae gofyn i'r Cyngor fynd i'r afael â bylchau sylweddol yn y gyllideb. Disgwylir i'r sefyllfa yma barhau, rhagwelir y bydd y Cyngor yn wynebu bwlch yn y gyllideb gwerth £28 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf (Ebrill 2026 - Mawrth 2027).

Cliciwch ar y dolenni ar ochr dde'r dudalen hon i gael rhagor o wybodaeth am sefyllfa ariannol y Cyngor. Drwy glicio ar y dolenni yma, bydd modd i chi hefyd ddarllen am y gwasanaethau y mae'r Cyngor yn gyfrifol amdanyn nhw, a chael gwybodaeth ynghylch ble a phryd y byddwn ni'n siarad yn uniongyrchol â phobl yn RhCT am y Gyllideb.

Bydden ni'n ddiolchgar iawn pe byddai modd i chi rannu eich barn am y Gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf (mae'r flwyddyn ariannol yn rhedeg o fis Ebrill 2026 i fis Mawrth 2027). Cliciwch yma i gymryd rhan yn ein harolwg, ac efallai bydd diddordeb gyda chi mewn rhoi cynnig ar yr efelychydd cyllideb rhyngweithiol, sy'n rhoi cyfle i chi weld sut mae'n rhaid i'r Cyngor gydbwyso'r penderfyniad i fuddsoddi mwy mewn rhai gwasanaethau yn erbyn sicrhau arbedion mewn meysydd eraill.

Byddwn ni'n edrych ar yr holl adborth a sylwadau sy'n cael eu cyflwyno wrth i ni fynd ati i weithio ar ein cynllun ar gyfer y Gyllideb newydd, sef y Strategaeth Gyllideb. Bydd eich barn chi, ochr yn ochr â gwaith manwl staff, rheolwyr ac arweinwyr y Cyngor, yn rhan allweddol o’n proses gwneud penderfyniadau.

Yn dilyn y cam cyntaf yma byddwn ni'n datblygu Strategaeth Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2026 - 2027. Byddwn ni hefyd yn cyhoeddi adroddiad ar yr ymgynghoriad yma, fel bod modd i chi weld y sylwadau a'r adborth a rannwyd gyda ni, a sut rydyn ni wedi defnyddio'r rhain i lunio'r Strategaeth Ddrafft. Bydd Cam Dau o'r Ymgynghoriad ar y Gyllideb yn dechrau ddiwedd mis Ionawr / dechrau mis Chwefror 2026.

Diolch am eich barn, eich sylwadau a'ch amser!

CLICIWCH YMA I GWBLHAU'R AROLWG

CLICIWCH YMA I ROI CYNNIG AR YR EFELYCHYDD CYLLIDEB RHYNGWEITHIOL

  •  Cyflwyniad

    Bob blwyddyn mae'n rhaid i'r Cyngor benderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio'r cyllid sydd ganddo. Daw'r arian yma o Lywodraeth Cymru (79%) a Threth y Cyngor (21%), a phan fo angen, cronfeydd wrth gefn y Cyngor.

    Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r gost sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau'r Cyngor wedi cynyddu'n gyflymach na'r cyllid rydyn ni'n ei dderbyn. Mae hyn yn golygu ein bod wedi wynebu bwlch yn y gyllideb, ac mae'n rhaid i ni barhau i wneud dewisiadau anodd a phwysig i fynd i'r afael â hyn a hefyd sicrhau bod y Cyngor yn parhau i reoli arian cyhoeddus yn dda. 

    Yn yr arolwg yma hoffen ni gael eich barn ar rai o’n cynlluniau, a’ch syniadau ar gyfer sut byddai modd gwneud pethau’n wahanol i’n helpu i lunio ein Strategaeth Gyllideb ar gyfer 2026-27.

    Diolch i chi am gymryd rhan.

    Cwblhau'r Arolwg
    Rhannu Cyllideb 2026 - 2027 (Cam 1) ar Facebook Rhannu Cyllideb 2026 - 2027 (Cam 1) Ar Twitter Rhannu Cyllideb 2026 - 2027 (Cam 1) Ar LinkedIn E-bost Cyllideb 2026 - 2027 (Cam 1) dolen
Diweddaru: 03 Tach 2025, 04:17 PM