Neidio i'r cynnwys
Baner y prosiect

Ymgynghoriad ar y Gyllideb 2022/23

 

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf, fel pob awdurdod lleol yng Nghymru, wedi wynebu gostyngiadau termau real yn y lefelau cyllid am nifer o flynyddoedd ac mae heriau mawr o'n blaenau, yn benodol, wrth ymdrin ag effaith barhaus Covid-19 a'r galw cynyddol am lawer o wasanaethau, megis gwasanaethau gofal cymdeithasol, ynghyd â chostau cynyddol.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi dangos ei allu a'i barodrwydd i fuddsoddi mewn gwasanaethau, yn unol â chynllun tymor hir, ac mae'r buddsoddiad 'ychwanegol' sylweddol sydd wedi'i gytuno eisoes gan Gynghorwyr etholedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn darparu gwelliannau mewn sawl maes gan gynnwys Ysgolion, Canol Trefi , Ffyrdd a Pharciau ac Ardaloedd Chwarae.  


 

Mae'r Cyngor wedi derbyn adborth cadarnhaol gan drigolion ar sut mae'n defnyddio cronfeydd unwaith ac am byth i fuddsoddi mewn gwasanaethau ac mae'n ddull y mae'n bwriadu parhau ag ef i adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd yn eu lle. Mae'r Cyngor hefyd yn gwybod bod rhaid iddo fynd i'r afael â diffygion yn y gyllideb, parhau â'i ddull cyfrifol o reoli arian cyhoeddus a blaenoriaethu sut mae'n defnyddio'r cyllid cyfyngedig sydd ar gael iddo.  

Mae'r arolwg yma'n gofyn am eich sylwadau ynglŷn â'r gyllideb. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio i ddatblygu Strategaeth ar gyfer Cyllideb 2022/23.