Dewch i Siarad am y Cynllun Datblygu Lleol
Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi dod i ben. Mae canlyniadau'r prosiect yma bellach yn cael eu dadansoddi. Byddwn ni'n ychwanegu dolenni i adroddiadau a rhagor o wybodaeth pan maen nhw ar gael.
Y Cynllun Datblygu Lleol 2022–2037
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn paratoi fersiwn newydd o'i Gynllun Datblygu Lleol (CDLl).
Nid yw pawb yn effro i'r CDLl ond mae'n cael effaith ar lawer o agweddau ar fywyd yn RhCT. Ei rôl allweddol yw penderfynu ar geisiadau cynllunio ac felly mae'n bwysig i bawb yn yr ardal.
Mae'r CDLl yn dynodi tir ar gyfer datblygu, gan gynnwys tai, cyflogaeth, manwerthu a chanol trefi, trafnidiaeth a phriffyrdd, mwynau (chwareli), ynni adnewyddadwy, gwastraff, twristiaeth, hamdden, addysg a chyfleusterau cymunedol ac iechyd ehangach (ymhlith eraill).
Mae hefyd yn amddiffyn ein hadnoddau naturiol gwych, ein treftadaeth hanesyddol, cynefinoedd bywyd gwyllt, mannau agored a'n tirweddau hardd.
Dyma rai o'r cwestiynau y mae angen i'r CDLl newydd eu datrys;
- Ym mhle mae angen tai newydd a ble y dylen nhw gael eu hadeiladu, neu beidio?
- Ble bydd pobl RhCT yn gweithio?
- Sut olwg ddylai fod ar ein Canol Trefi yn y dyfodol?
- Pa gyfleusterau sydd eu hangen ar RCT?
- Beth yw'r ffordd orau i ni amddiffyn ein hamgylchedd naturiol unigryw?
- Oes unrhyw beth mae modd i'r Cynllun Datblygu Lleol ei wneud i helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd?
Mae angen eich help arnon ni! Mae'n bryd nawr i ni glywed eich barn chi ar ba faterion y mae angen i'r CDLl helpu i fynd i'r afael â nhw yn RhCT!
Gall y materion yma gynnwys unrhyw beth sy'n bwysig yn eich barn chi mewn perthynas â'r holl feysydd sydd wedi'u nodi uchod, e.e. tai newydd, swyddi, canol trefi, gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus, rhagor o gyfleusterau cymunedol neu eich barn am ynni adnewyddadwy neu dwristiaeth ac ati.
Nodwch eich syniadau ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig yn yr adran isod.
Os hoffech chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y broses CDLl, bydd modd ychwanegu eich manylion chi at ein cronfa ddata. Anfonwch neges e-bost: CDLl@rctcbc.gov.uk