Dewch i Ni Siarad am Hamdden

Rhannu Dewch i Ni Siarad am Hamdden ar Facebook Rhannu Dewch i Ni Siarad am Hamdden Ar Twitter Rhannu Dewch i Ni Siarad am Hamdden Ar LinkedIn E-bost Dewch i Ni Siarad am Hamdden dolen

Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi dod i ben. Mae canlyniadau'r prosiect yma bellach yn cael eu dadansoddi. Byddwn ni'n ychwanegu dolenni i adroddiadau a rhagor o wybodaeth pan maen nhw ar gael.

Hamdden Egnïol am Oes

Strategaeth Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol

2022/27

__________________________________________________________________________________________________________________________

  • Mae'r cyfleusterau sydd ar gael yn Rhondda Cynon Taf ymhlith y gorau yng Nghymru.
  • Mae Aelodaeth Hamdden am Oes yn fforddiadwy a chynhwysfawr, a dydy'r pris ddim wedi cynyddu yn ystod y 5 mlynedd diwethaf.
  • Rhwng 2016 a 2021, buddsoddwyd dros £10 miliwn mewn lleoliadau hamdden ledled RhCT.
  • Cafodd 3 thrac athletau eu datblygu.
  • Cafodd pedwar cae chwarae 3G newydd eu datblygu, sy'n golygu bod 14 cae o'r fath ledled y Fwrdeistref Sirol.
  • Agorodd y cae chwarae rygbi (3G) dan do cyntaf yn y Fwrdeistref Sirol yng Nghanolfan Hamdden Rhondda Fach.

Rydyn ni wedi cefnogi cymunedau i wella'u hiechyd a'u lles trwy ymgysylltu â:

  • dros 120 o ysgolion;
  • dros 300 o leoliadau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn y gymuned,
  • Rydyn ni wedi derbyn tua 2000 o atgyfeiriadau i'r cynllun atgyfeirio iechyd bob blwyddyn, mae’r rhain yn gweithredu o 8 cyfleuster hamdden yn RhCT
  • Cafodd sesiynau dwysedd isel eu datblygu er mwyn cefnogi oedolion hŷn i ddefnyddio cyfleusterau hamdden prif ffrwd.

Ein nod dros y 5 mlynedd nesaf yw cefnogi pob trigolyn i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn rheolaidd, trwy gydol eu bywydau, yn rhan o ffordd iach o fyw.

Bydd y Strategaeth Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol yn ein helpu ni i ymateb i effaith y pandemig ac adeiladu dyfodol gwell er budd iechyd a lles pawb yn RhCT.

Er mwyn cyflawni ein nod, bydd rhaid defnyddio'r strategaeth yma i adeiladu ar ein cryfderau, nodi ein gwendidau a manteisio ar gyfleoedd i wella'n barhaus.

Mae'r Strategaeth yn gysylltiedig â Chynllun Corfforaethol 2020-24 y Cyngor, gan ddefnyddio Lleoedd a Phobl er mwyn pennu ein hamcanion, a’u cyflawni,yn ystod y 5 mlynedd nesaf.

Cyfleusterau Hamdden, Chwaraeon a Pharciau RhCT

Canolfan Chwaraeon AbercynonDros 200o gaeau chwarae gwair
Canolfan Hamdden y Ddraenen WenLawntiau bowlio a chyrtiau tennis
Canolfan Hamdden Llanilltud Faerdref10 parc rhanbarthol a dros 80 o barciau lleol
Canolfan Hamdden Llantrisant217 man chwarae awyr agored
Llys Cadwyn16 cae chwarae artiffisial/3G
Canolfan Hamdden Rhondda Fach11 Ardal Gemau Aml-ddefnydd
Canolfan Hamdden Cwm Rhondda2 drac pwmpio
Canolfan Hamdden Tonyrefail2 hwb ymarfer corff awyr agored
Canolfan Hamdden Sobell199 man chwarae awyr agored
Pwll Nofio Bronwydd5 parc sglefrio a 3 'half pipe'
Lido Cenedlaethol Cymru
Pwll Nofio'r Ddraenen Wen
Stadiwm Athletau Ron Jones
Trac Athletau Brenin Siôr V
Trac Athletau Bryncelynnog

Trosolwg cryno o nodau ac amcanion y Strategaeth

  • Ein nod yw cynyddu nifer y trigolion sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn rheolaidd, yn rhan o ffordd iach o fyw.
  • Datblygu, darparu, ac integreiddio gwasanaethau cymorth wedi'u teilwra ar gyfer nofio a ffitrwydd.
  • Ceisio cynyddu nifer y trigoliono gymunedau difreintiedig sy'n cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn rheolaidd, yn rhan o ffordd iach o fyw.
  • Adolygu'r rhaglen nofio i gynyddu nifer y gwersi nofio i blant.
  • Darparu rhaglen hyfforddi, cymorth a datblygu i'r gweithlu cyflogedig, gwirfoddol a myfyrwyr.
  • Darparu rhaglen fuddsoddi ar gyfer cyfleusterau chwarae ac ymarfer corff awyr agored.
  • Parhau â'n rhaglen fuddsoddi a gwaith cynnal a chadw ar gyfer campfeydd, canolfannau hamdden a phyllau nofio'r Cyngor.
  • Cefnogi gwaith datblygu ysgolion a lleoliadau yn y gymuned, i sicrhau’u bod nhw’n cael eu defnyddio’n fwy aml.
  • Datblygu gwasanaeth prif ffrwd ar-lein sy'n cynnwys gwybodaeth, cymorth a chyfleoedd i wneud ymarfer corff ar-lein.

Cyfryngau cymdeithasol:

f facebook.com/Rhondda Cynon Taf Council Leisure Services

t @sportrct

f facebook.com/RCTCBCsport

Diweddaru: 16 Tach 2022, 11:08 AC