Dewch i Siarad Aberdâr

Rhannu Dewch i Siarad Aberdâr ar Facebook Rhannu Dewch i Siarad Aberdâr Ar Twitter Rhannu Dewch i Siarad Aberdâr Ar LinkedIn E-bost Dewch i Siarad Aberdâr dolen

Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi dod i ben. Mae canlyniadau'r prosiect yma bellach yn cael eu dadansoddi. Byddwn ni'n ychwanegu dolenni i adroddiadau a rhagor o wybodaeth pan maen nhw ar gael.

Strategaeth newydd ar gyfer Canol Tref Aberdâr

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi datblygu Strategaeth Ddrafft ar gyfer Aberdâr a fydd yn helpu i lywio buddsoddiad yn y dyfodol yng nghanol y dref i adeiladu ar: "Treftadaeth unigryw a lleoliad strategol Aberdâr i greu cyrchfan mwy bywiog, deinamig a deniadol i drigolion ac ymwelwyr."

Mae’r Strategaeth Ddrafft yn ymateb i’r adborth a gafwyd o ymgysylltu cynnar â’r gymuned, a gynhaliwyd rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Chwefror 2023. Roedd hynny wedi nodi’r ystod o gryfderau, gwendidau, heriau a chyfleoedd allweddol sydd i'w cael yng Nghanol Tref Aberdâr.

Un o nodau allweddol y Strategaeth Ddrafft yw gwneud y gorau o’r cyfleoedd i gryfhau hunaniaeth Aberdâr fel lle gwych i fyw a gweithio, ac i ymweld ag ef. I wneud hyn, mae cyfres o ‘themâu buddsoddi’ wedi’u cynnwys yn y Strategaeth Ddrafft a fydd yn helpu i arwain buddsoddiad yn y dyfodol.

Mae modd darllen “Crynodeb Gweithredol” byr o'r Strategaeth Ddrafft drwy glicio yma neu pe hoffech chi ddarllen y Strategaeth Ddrafft yn ei chyfanrwydd, cliciwch ar y dolenni ar ochr dde'r dudalen yma.

Diweddaru: 22 Sep 2023, 11:58 AC