Dewch i Siarad Llwybr Taf Trallwn

Rhannu Dewch i Siarad Llwybr Taf Trallwn ar Facebook Rhannu Dewch i Siarad Llwybr Taf Trallwn Ar Twitter Rhannu Dewch i Siarad Llwybr Taf Trallwn Ar LinkedIn E-bost Dewch i Siarad Llwybr Taf Trallwn dolen

Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi dod i ben. Mae canlyniadau'r prosiect yma bellach yn cael eu dadansoddi. Byddwn ni'n ychwanegu dolenni i adroddiadau a rhagor o wybodaeth pan maen nhw ar gael.

Gwelliannau i lwybr Taith Taf trwy Drallwn

Dweud eich dweud

Hoffen ni glywed eich barn ar yr opsiynau posibl sydd wedi'u cynllunio i wella rhan o lwybr Taith Taf trwy Drallwn.

Rydyn ni'n argymell eich bod chi'n bwrw golwg ar y cynlluniau drwy ddilyn y dolenni isod ac yn darllen y dudalen yma i gael gwybod rhagor am y cynllun.

Linc i'r archwiliad ymgynghori

Cefndir y cynllun

Llwybr cerdded a beicio yw llwybr Taith Taf rhwng Aberhonddu a Bae Caerdydd. Mae llawer o'r llwybr mynd trwy gefn gwlad agored gan ddarparu cyfleuster hamdden a gaiff ei ddefnyddio'n aml. Mae'r rhannau sy'n mynd trwy ardaloedd trefol, megis Merthyr Tudful, Pontypridd a Chaerdydd, â'r potensial i hwyluso teithio llesol i weithleoedd, ysgolion, siopau manwerthu a gwasanaethau iechyd. Mae modd i deithiau llesol helpu i ddefnyddio ceir yn llai ar gyfer gwneud teithiau byr, ac yn ei dro, mae modd i hyn liniaru tagfeydd traffig a phroblemau sy'n gysylltiedig â hynny.

Pam mae newidiadau wedi cael eu cynnig?

Cafodd yr angen am welliannau i’r rhan yma o lwybr Taith Taf ei gydnabod gyntaf yn ystod cyflwyniad Map Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i Lywodraeth Cymru yn 2018. Mae aliniad presennol llwybr Taith Taf trwy Drallwn yn dilyn gwahanol lwybrau tua'r gogledd a thua'r de ar hyn o bryd gan fod llawer o'r ffyrdd lleol yn rhai unffordd. Er bod arwyddion yn arwain defnyddwyr llwybr Taith Taf drwy'r rhwydwaith strydoedd, mae defnyddio gwahanol ffyrdd yn ddryslyd ac anuniongyrchol.

Mae'r rhan yma o lwybr Taith Taf yn gyswllt pwysig i'r rhwydwaith teithio llesol ehangach sy'n amgylchynu Pontypridd, gan y bydd yn darparu mynediad mwy uniongyrchol a gwell i’r cyfleusterau hamdden a thwristiaeth ym Mharc Ynysangharad, a’r gwasanaethau a’r cyfleusterau yng nghanol tref Pontypridd

Ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, mae WSP (REI) yn cynnal astudiaeth a fydd yn ystyried yr opsiynau i wella llwybr Taith Taf trwy Drallwn.

Y Cynigion

Mae prosiectau fel yr un yma fel arfer yn cael eu datblygu dros sawl blwyddyn, o'r cysyniad i'r dyluniad manwl, ac yna'n dibynnu ar gymeradwyaeth cyllid gan gyrff fel Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod adeiladu. Rydyn ni yn y cyfnod cynnar o'r broses ddylunio ar hyn o bryd. Bydd yr opsiynau a ffefrir yn cael eu dewis yn seiliedig ar sawl elfen, gan gynnwys canlyniadau'r ymgynghoriad â'r cyhoedd, yr opsiwn o ran y modd i gyflawni'r prosiect (lle bydd perchnogaeth tir yn chwarae rhan allweddol), goblygiadau costau, a chyflawniad yr opsiwn yn erbyn nodau, amcanion a blaenoriaethau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.

Gan fod angen i'r llwybr a ffefrir bod at ddibenion teithio llesol, mae’r gwaith o ddatblygu’r opsiynau yn seiliedig ar Ganllawiau Deddf Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2021. Mae hyn yn cynnwys cymhwyso adnoddau archwilio am gerdded a beicio yn ogystal â safonau y dylai llwybrau teithio llesol gadw atyn nhw.

Hidlo opsiynau

Ar ddechrau'r prosiect yma, ac yn unol â phroses Arfarnu Trafnidiaeth Cymru, datblygodd carfan y prosiect restr eang o opsiynau posibl, digon i allu penderfynu a oes unrhyw opsiynau gwerth eu dilyn ac i ddewis rhestr fer o opsiynau i'w hystyried yn fanylach. Cafodd yr opsiynau eu rhoi ar y rhestr fer yn seiliedig ar:

  • eu gallu i atal neu ddatrys y broblem nawr ac yn y dyfodol
  • eu gallu i fodloni'r nodau sydd wedi'u gosod a gwella lles cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd Cymru;
  • eu heffeithiau tymor byr a thymor hir i gyflawni nifer o fuddion ar draws y pedair agwedd ar les a chynyddu cyfraniad i bob un o’r saith nod llesiant;
  • modd eu cyflawni; ac
  • eu cadernid yn erbyn ansicrwydd a'r potensial i ysgogi newid parhaol

Mae dau opsiwn wedi cael eu dewis i fod y mwyaf ymarferol yn nhermau eu potensial i gyrraedd y safonau teithio llesol gofynnol. Mae'r ddau opsiwn wedi'u cyflwyno isod gyda disgrifiad byr o'r gwelliannau potensial.

Opsiwn 1 - Cynnig i Adlinio ar hyd Pont Droed yr A470 yn Heol y Ffowndri

Linc i luniad manwl - Opsiwn 1

Mae'r opsiwn yma'n cynnig lledu'r bont droed ar hyd rhannau o Heol Coedpenmaen a Stryd y Bont, lle bo hynny'n bosibl, ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Y cynnig yw y bydd pont droed yr A470 yn cael ei gwella neu ei disodli i gydymffurfio â Chanllawiau'r Ddeddf Teithio Llesol (2021). Cynigir gosod goleuadau ar hyd y llwybr y tu ôl i'r ysgol cyn i'r llwybr barhau ar hyd Clos Coedpenmaen. Bydd ffordd ddynesu Heol Coedpenmaen at gylchfan yr A470 yn cael ei lledu fel bod modd i bawb ei defnyddio a byddai’r croesfannau sy'n cael eu rheoli gan signalau ar slipffyrdd yr A470 yn cael eu huwchraddio i hwyluso'u defnydd i bawb. Mae’r opsiwn yma hefyd yn cynnwys amrywiad i weithredu llwybr y mae modd i bawb ei ddefnyddio wedi’i oleuo rhwng ochr ogleddol a deheuol cylchfan yr A470. Bydd pafinau ag ymylon isel a phalmantau botymog ym mhob cyffordd ar hyd aliniad arfaethedig y llwybr. Bydd arwyddion newydd ar hyd llwybr Taith Taf yn cael eu gosod ar byst/polion presennol, lle bo hynny'n bosibl, i osgoi rhwystrau ar y strydoedd.

Opsiwn 2 - Cynnig i Adlinio ar hyd tanffordd yr A470 ym Maes Doddington

Linc i luniad manwl - Opsiwn 2

Mae'r opsiwn yma'n cynnig lledu'r droedffordd bresennol ar hyd Heol Coedpenmaen a Stryd y Bont, lle bo hynny'n bosibl, i gerddwyr a beicwyr ei ddefnyddio. Cynigir bod y llwybr wedyn yn mynd tua’r dwyrain at gyffordd Heol Coedpenmaen/Maes Doddington, gan fynd o dan yr A470, gan ddefnyddio Heol Scarborough a Heol Llanofer, gydag opsiynau i barhau o flaen Ysgol Gynradd Coedpenmaen i gwrdd â Heol y Comin, neu ddefnyddio’r llwybr y tu ôl i'r ysgol, sy'n cysylltu â Heol Coedpenmaen. Yn yr un modd ag Opsiwn 1, bydd dynesfa Heol Coedpenmaen at gylchfan yr A470 yn cael ei lledu fel bod modd i bawb ei defnyddio a byddai’r croesfannau â signalau ar slipffyrdd yr A470 yn cael eu huwchraddio fel bod modd i bawb eu defnyddio. Mae’r opsiwn yma hefyd yn cynnwys amrywiad i weithredu llwybr wedi’i oleuo rhwng ochr ogleddol a deheuol cylchfan yr A470 fel bod modd i bawb ei ddefnyddio. Bydd pafin ag ymylon isel a phalmant botymog ym mhob cyffordd ar hyd aliniad arfaethedig y llwybr. Bydd arwyddion newydd ar hyd llwybr Taith Taf yn cael eu gosod ar byst/polion presennol, lle bo hynny'n bosibl, i osgoi rhwystrau ar y strydoedd.

Diweddaru: 14 Ebr 2023, 09:12 AC