Dewch i Siarad am Ailgylchu a Gwastraff

Rhannu Dewch i Siarad am Ailgylchu a Gwastraff ar Facebook Rhannu Dewch i Siarad am Ailgylchu a Gwastraff Ar Twitter Rhannu Dewch i Siarad am Ailgylchu a Gwastraff Ar LinkedIn E-bost Dewch i Siarad am Ailgylchu a Gwastraff dolen

Roedd yr ymghynghoriad yma wedi cael ei gynnal rhwng 05.12.2022 a 09.01.2023. Mae modd ichi ddarllen ein adroddiad ymgynghoriad yma. Mae modd ichi ddarllen adroddiad y cabinet yma. Mae modd ichi ddarllen am y penderfyniadau a gafodd eu gwneud yma.

Mae'r Cyngor wedi nodi'n barod yr heriau digynsail sydd ar y gweill i wasanaethau ledled llywodraeth leol, a hynny yn sgil effaith economaidd parhaus COVID-19, Brexit, y gwrthdaro yn Wcráin a'r argyfwng costau byw, ble mae disgwyl y bydd chwyddiant digid dwbl a chostau ynni awdurdodau lleol 3 gwaith yn fwy ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Mewn amgylchiadau o'r fath, mae'n hollbwysig bod y Cyngor yn osgoi dirwyon am beidio ag ailgylchu drwy fwrw targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru o ailgylchu 70% erbyn 2024/25 a chefnogi ymdrechion Cymru i ddod yn sero net erbyn 2030.

Mae angen i'r Cyngor archwilio'r holl opsiynau sydd ar gael i gynyddu'r cyfraddau ailgylchu ar draws y Fwrdeistref Sirol. Dyma'r cynnig sydd wedi'i gyflwyno:

  • Bod POB cartref ar draws Rhondda Cynon Taf yn symud i wasanaeth casglu bagiau du/bin ar olwynion bob tair wythnos. O symud i gasgliadau 3 wythnos, bydd y terfynau gwastraff presennol yn parhau, sef 2 fag du bob pythefnos, (sef 1 bag bob wythnos) ac felly 3 bag du neu fin ar olwynion (â'i glawr ar gau) bob 3 wythnos.

Byddai’r cynnig yma'n helpu’r Cyngor i wneud y canlynol:

  • Parhau i ddarparu gwasanaeth ailgylchu LLAWN BOB WYTHNOS ochr yn ochr â'r newidiadau yma, gan gynnwys ailgylchu cewynnau, gwastraff bwyd, deunydd ailgylchu sych a gwastraff gwyrdd (tymhorol) - dylai'r holl ddeunydd yma gyfrif am bron i 80% o wastraff wythnosol y cartref.
  • Arbed cyllid hanfodol o £800,000 mewn costau rhedeg a lleihau ei ôl troed carbon blynyddol yn sylweddol.
  • Dargyfeirio unrhyw arbedion i ddiogelu gwasanaethau allweddol eraill, fel gofal cymdeithasol neu addysg.

Y gyfradd ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf yw 67.48% ar hyn o bryd. Rhaid i'r Cyngor weithredu nawr i sicrhau nad yw'n wynebu dirwyon sylweddol o £140,000 am bob 1% y mae'n methu wrth geisio cyrraedd y targed o 70%. Ac yntau'n gyfnod anodd fel y mae hi, gallai'r swm sylweddol yma o arian arwain at orfod gwneud toriadau i wasanaethau neu gallai effeithio'n fawr arnyn nhw, a hynny er mwyn talu'r dirwyon.

Mae amcangyfrif bod modd i gynnwys 8 o bob 10 bag du sy'n cael eu rhoi allan i gael eu casglu gael eu hailgylchu, a byddai'r newid yma yn ein helpu ni gyd i feddwl am bob un peth rydyn ni'n ei daflu a ph'un ai oes modd ei ailgylchu ai peidio.

Cyngor RhCT oedd un o'r cynghorau cyntaf yng Nghymru i symud i ffwrdd o gasgliadau gwastraff wythnosol, a chyfyngu ar nifer y bagiau du sy'n cael eu casglu. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae'r newidiadau yma wedi cyfrannu at gynnydd enfawr yn y gyfradd ailgylchu ar gyfer y Fwrdeistref Sirol gyfan.

Mae'r Cyngor wedi gwneud cynnydd da dros y ddegawd ddiwethaf i wella cyfraddau ailgylchu ac mae hynny'n ddiolch i ymdrechion ein trigolion a’n staff ymroddedig.

Yn 2013, pan gafodd casgliadau bob pythefnos eu cyflwyno, cyfradd ailgylchu'r Fwrdeistref Sirol oedd 43.3% ac roedd yn wynebu dirwyon posibl am beidio â chyrraedd targed Llywodraeth Cymru o 52% ar gyfer 2013/14. Erbyn heddiw, cyfradd ailgylchu'r Cyngor yw 67.4%; dyna gynnydd o 24%!

Mae hyn yn dangos bod y newidiadau a gafodd eu gwneud ar yr adeg yna, law yn llaw â'n trigolion, wedi ein helpu i ragori ar y targed cyfredol (roedd Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau statudol i ailgylchu o leiaf 64% o wastraff erbyn 2019-20).

Erbyn hyn, mae angen eich cymorth a'ch safbwyntiau chi ar y Cyngor i gael gwybod sut mae modd i ni gyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru, sef 70% erbyn 2024/25.

Byddai gweithredu'r cynnig yn gweld cynnydd yn y swm a gaiff ei ailgylchu a fyddai’n cyfateb i 2,600 tunnell – a lleihau'i ôl-droed carbon blynyddol yn sylweddol – a chynnydd o 1.9% yng nghyfradd ailgylchu gyffredinol y Cyngor (yn seiliedig ar ffigurau 2021), (gan gynyddu o 67.48% i 69.38%).

Ochr yn ochr â'r ymgynghoriad a lansiwyd mewn perthynas â'r cynnig yma, bydd y Cyngor hefyd yn treialu'r defnydd o sachau ailgylchu mae modd eu hailddefnyddio ar gyfer casglu ailgylchu cymysg sych (DMR) mewn rhannau o'r Fwrdeistref Sirol.

Diweddaru: 01 Mar 2023, 02:14 PM