Dewch i Siarad am Gydraddoldebau

Rhannu Dewch i Siarad am Gydraddoldebau ar Facebook Rhannu Dewch i Siarad am Gydraddoldebau Ar Twitter Rhannu Dewch i Siarad am Gydraddoldebau Ar LinkedIn E-bost Dewch i Siarad am Gydraddoldebau dolen

Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi dod i ben. Mae canlyniadau'r prosiect yma bellach yn cael eu dadansoddi. Byddwn ni'n ychwanegu dolenni i adroddiadau a rhagor o wybodaeth pan maen nhw ar gael.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cydnabod ac yn ategu'r egwyddor y dylai pawb gael yr hawl i fyw heb ofn o gael eu haflonyddu, eu trin mewn modd annheg a gwahaniaethu gwaeth pwy ydyn nhw neu unrhyw amgylchiadau personol. Rydyn ni o'r farn bod gyda ni ddyletswydd i fynd i'r afael ag achosion o wahaniaethu ac anfantais fel bod pobl yn teimlo'n ddiogel rhag cael eu haflonyddu a bod gwasanaethau o ansawdd uchel o fewn cyrraedd pawb.

Er mwyn ein cynorthwyo ni gyda hyn, rydyn ni'n paratoi Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd. Bydd yn esbonio'r hyn mae'r Cyngor yn ei wneud er mwyn hyrwyddo Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI), elfen hanfodol o'n gwaith. Bydd hefyd yn amlinellu sut byddwn ni'n bodloni rhwymedigaethau cyfreithiol Deddf Cydraddoldeb 2010.

Mae modd i chi fwrw golwg ar ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol Drafft yma, neu drwy glicio ar y ddolen ar ochr y dudalen yma. Yn rhan o'r cynllun yma, byddwch chi'n dod o hyd i'n Hamcanion Cydraddoldeb, ein rhesymau dros ymrwymo iddyn nhw a'r hyn rydyn ni'n bwriadu ei wneud er mwyn eu diwallu. Dyma nhw:

Amcan 1: Byddwn ni'n ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) ym mhob agwedd o ddarpariaeth ein gwasanaethau

Amcan 2: Byddwn ni'n denu ymgeiswyr sy'n cynrychioli amrywiaeth ein cymunedau, gan gyfoethogi ein gallu sefydliadol o ran cwrdd â'n hamcanion

Amcan 3: Byddwn ni'n parchu, gwerthfawrogi a gwrando ar ein holl weithwyr drwy ymgorffori diwylliant cynhwysol

Yn gymorth i ddatblygu ein Hamcanion Cydraddoldeb, rydyn ni wedi siarad â nifer o'n staff a rheolwyr ynglŷn â'r hyn mae modd i ni wneud yn well. Rydyn ni bellach eisiau clywed eich adborth chi am y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac ein Hamcanion Cydraddoldeb. Rhannwch eich barn gyda ni drwy gwblhau'r arolwg byr ar ddiwedd y dudalen yma a thrwy nodi eich syniadau ar y bwrdd syniadau rhyngweithiol. Rydyn ni'n gwerthfawrogi mewnbwn a barn y bobl sy'n byw a gweithio yn Rhondda Cynon Taf!

Diweddaru: 09 Chwef 2024, 05:07 PM