Dewch i Siarad am Wefru Cerbydau Trydan

Rhannu Dewch i Siarad am Wefru Cerbydau Trydan ar Facebook Rhannu Dewch i Siarad am Wefru Cerbydau Trydan Ar Twitter Rhannu Dewch i Siarad am Wefru Cerbydau Trydan Ar LinkedIn E-bost Dewch i Siarad am Wefru Cerbydau Trydan dolen

Gyda datganiad ‘Argyfwng Hinsawdd’ gan Lywodraeth Cymru, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn glir bod rhaid iddo chwarae ei ran wrth gymryd camau brys i liniaru'r risgiau sydd ynghlwm â'r Newid yn yr Hinsawdd. Mae'r Cyngor wedi cydnabod y newidiadau sylfaenol sydd eu hangen i'r ffordd rydyn ni i gyd yn byw ein bywydau. O'r herwydd, mae wedi ymrwymo i ddod yn Awdurdod Lleol Sero-net erbyn 2030.

Rydyn ni eisoes wedi gofyn am eich barn chi i'n helpu i gynllunio ein darpariaeth o fannau gwefru cerbydau trydan ar gyfer y dyfodol yn Rhondda Cynon Taf. Cyhoeddwyd y canlyniadau yma.

Yn dilyn hyn, rydyn ni bellach wedi llunio Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan drafft, i amlinellu sawl egwyddor allweddol a fydd yn grymuso'r Cyngor i gynghori, helpu a chefnogi unigolion, neu bartïon, sy'n dymuno newid o gerbydau confensiynol i gerbydau trydan.

Nod y Strategaeth yw nodi pam bod angen gweithredu a nodi deilliannau clir, cydgysylltu dull sy'n cael ei weithredu ar hyd y Fwrdeistref Sirol, hyrwyddo ac annog datblygu rhwydwaith cadarn ac ymarferol ar gyfer gwefru cerbydau trydan. Bydd hefyd yn annog pobl i newid o ddefnyddio cerbydau petrol a diesel i ddefnyddio cerbydau trydan yn rhan o nodau trafnidiaeth gynaliadwy ehangach y Cyngor.

Yn dilyn cyhoeddi'r Strategaeth yma bydd y Cyngor yn llunio Cynllun Gweithredu. Bydd hyn yn gweithredu fel map i hysbysu unigolion a / neu sefydliadau o'r llwybr priodol i'w gymryd wrth osod seilwaith ar gyfer cerbydau trydan a darparu canllawiau arfer gorau, arweiniad ymarferol a gwybodaeth berthnasol ynghylch cyllid a deddfwriaeth.

Gwefru ar y Stryd i Breswylwyr

Ar hyn o bryd, does dim modd i Awdurdod Priffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf gefnogi gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan preifat ar y briffordd gyhoeddus, na gerllaw na throstyn nhw. Er budd diogelwch ar y briffordd ac mewn perthynas â chynnal a chadw yn y dyfodol, does dim modd i'r Awdurdod Priffyrdd ganiatáu llusgo ceblau, hyd yn oed gyda defnyddio troshaen neu grid cilfachog ar draws priffordd gyhoeddus neu lwybr troed, neu sianelu ceblau o dan y llwybr troed. Mae hyn oherwydd materion atebolrwydd cyhoeddus, gan gynnwys y risg o beryglon baglu a materion diogelwch trydanol mwy cymhleth ar y pwynt defnydd. Er gwaethaf hyn, mae’r Cyngor wedi sicrhau cyllid i osod Mannau Gwefru Cerbydau Trydan mewn nifer o fannau parcio cyhoeddus ar draws y Fwrdeistref Sirol, yn agos at ardaloedd preswyl, ar ôl gweithio’n agos gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd ar raglen ranbarthol o bwyntiau gwefru.

Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – Darpariaeth Wefru Gyhoeddus

Wrth weithio mewn partneriaeth ag Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae’r Cyngor yn falch o gadarnhau y bydd Connected Kerb Ltd yn dechrau gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus mewn 31 o feysydd parcio ar draws Rhondda Cynon Taf, yn rhan o waith ehangach ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ardal sy’n croesi 10 awdurdod lleol.

Mae gwaith darparu mannau gwefru cerbydau trydan eisoes wedi dechrau yn y safleoedd sydd wedi'u nodi. Bydd cymysgedd o bwyntiau gwefru cyflym 7kw a 22kw. Bydd pob un o'r pwyntiau gwefru cerbydau trydan newydd yn y 31 safle oll wedi'u gosod cyn diwedd y flwyddyn.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gwaith gosod, lleoliadau'r safleoedd wedi'u cadarnhau a sawl man gwefru fydd yn cael eu gosod, bwriwch olwg ar ein gwefan. Tudalen ymgyrchoedd gwefru cerbydau trydan.

Am ragor o wybodaeth a chwestiynau cyffredin yn ymwneud â gweithredu'r mannau gwefru cerbydau trydan yn y meysydd parcio, ewch i: Connected Kerb - Cwestiynau Cyffredin

Rhannu Ble hoffech chi weld pwyntiau gwefru ar gyfer Cerbydau Trydan yn y gymuned? ar Facebook Rhannu Ble hoffech chi weld pwyntiau gwefru ar gyfer Cerbydau Trydan yn y gymuned? Ar Twitter Rhannu Ble hoffech chi weld pwyntiau gwefru ar gyfer Cerbydau Trydan yn y gymuned? Ar LinkedIn E-bost Ble hoffech chi weld pwyntiau gwefru ar gyfer Cerbydau Trydan yn y gymuned? dolen

Ble hoffech chi weld pwyntiau gwefru ar gyfer Cerbydau Trydan yn y gymuned?

Am 2 Blynyddoedd

Bydd y Cyngor yn edrych ar fannau allweddol i osod pwyntiau gwefru mewn lleoliadau cyhoeddus ar draws RhCT. Mae modd i'r rhain gynnwys:

  • Canolfannau hamdden
  • Meysydd parcio
  • Atyniadau i dwristiaid ac atyniadau diwylliannol
  • Canol trefi

Mae'r Cyngor yn awyddus i weld lle mae diddordeb y cyhoedd a'r galw am bwyntiau gwefru cymunedol o'r fath. Defnyddiwch y map i roi gwybod i ni beth yw eich barn ac i roi eich sylwadau. I ollwng pin, cliciwch y botwm + ar ochr chwith y dudalen.  

Mae modd i ni gasglu awgrymiadau ar gyfer lleoliadau yn Rhondda Cynon Taf yn unig. Bydd unrhyw binnau neu awgrymiadau y tu allan i ardal y Cyngor yn cael eu hanwybyddu.

Diweddaru: 08 Awst 2022, 10:04 AC