Dewch i Siarad am y Gyllideb 2023/24
Mae'r arolwg yma bellach wedi dod i ben. Mae modd ichi ddarllen adroddiad y cabinet yma. Mae modd ichi ddarllen ein adroddiad ymgynghoriad yma.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn sefydliad mawr sy'n darparu ystod eang o wasanaethau ledled ardal Rhondda Cynon Taf, er enghraifft, casglu gwastraff a deunydd ailgylchu trigolion, glanhau strydoedd, cartrefi i'r henoed, canolfannau hamdden, theatrau a darparu cyllid ar gyfer ein hysgolion ni a gweithio mewn partneriaeth â nhw i gynnig addysg o safon uchel i blant a phobl ifainc. Cyfanswm ei gyllideb refeniw net ar gyfer 2022/23 yw £566 miliwn ac mae'r rhan fwyaf o'r arian, 78%, yn dod oddi wrth Lywodraeth Cymru gyda Threth y Cyngor yn cyfrif am 21% gyda chronfeydd wrth gefn y Cyngor yn cael eu defnyddio hefyd.
O ganlyniad i effaith barhaus Brexit, adfer ar ôl y pandemig, y gwrthdaro yn Wcráin, chwyddiant a'r argyfwng costau byw, mae rhagolygon y bydd y Cyngor yn wynebu bwlch cyllidebol sylweddol dros y 3 blynedd nesaf. Yn seiliedig ar gynlluniau gwariant Llywodraeth y DU (fel y cafodd eu gosod yn Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant y llynedd) mae'r Cyngor yn rhagweld bwlch yn y gyllideb o dros £47 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf (2023/24) yn unig gyda'r rhagolwg yn cynyddu i dros £80 miliwn erbyn blwyddyn ariannol 2025/26.
Heb newid trywydd gan Lywodraeth y DU, bydd angen i'r Cyngor leihau ei wariant cylchol blynyddol ar wasanaethau'r Cyngor. Mae gan y Cyngor gronfeydd wrth gefn a bydd e'n defnyddio'r rhain yn rhan o'r cyfnod pontio i lefel is o wariant parhaus wrth symud ymlaen o ganlyniad i'r toriadau mewn termau go iawn gan y Llywodraeth i'r cyllid. Does dim modd i ni ofyn i dalwyr treth y cyngor lleol yn unig i lenwi'r bwlch.
Yn unol â chynllun hirdymor, mae'r Cyngor wedi gallu buddsoddi mewn gwasanaethau ac isadeiledd dros y blynyddoedd diwethaf i beri gwelliannau mewn nifer o feysydd, gan gynnwys ysgolion, canol trefi, ffyrdd, pontydd, parciau a mannau chwarae. Mae'r Cyngor hefyd wedi derbyn adborth cadarnhaol gan drigolion ar sut mae'n defnyddio cronfeydd unwaith ac am byth i fuddsoddi mewn gwasanaethau ac mae'n ddull y mae'n bwriadu parhau ag ef i adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd yn eu lle.
Fodd bynnag, mae'r sefyllfa bellach yn gorfodi'r Cyngor i fynd i'r afael â'r diffygion yn y gyllideb sydd wedi'u darogan, parhau â'i ddull cyfrifol o reoli arian cyhoeddus a blaenoriaethu sut mae'n defnyddio'r cyllid cyfyngedig sydd ar gael iddo.
Byddech cystal â llenwi'r arolwg isod i rannu eich barn chi ar y gyllideb, a'n helpu ni i ddatblygu Strategaeth ar gyfer Cyllideb 2023/24.