Dewch i Siarad am y Gyllideb 2023/24 - Cam 2

Rhannu ar Facebook Rhannu ar Twitter Rhannu ar LinkedIn E-bostiwch y ddolen hon

Mae'r arolwg yma bellach wedi dod i ben. Mae modd ichi ddarllen adroddiad y cabinet yma. Mae modd ichi ddarllen ein adroddiad ymgynghoriad yma.

Ar 14 Rhagfyr 2022, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro ar gyfer 2023/24. Dyma'r cyllid mae cynghorau ledled Cymru yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n ffurfio prif ran ein cyllideb flynyddol.

Mae'r setliad terfynol ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn dangos cynnydd o 6.6%, sy'n well na'r cyfartaledd ledled Cymru.

Mae'r setliad ar gyfer 2023/24 yn fwy cadarnhaol na'r disgwyl, ond dydy'r cyllid dal ddim yn ddigon i fynd i'r afael â'r heriau arwyddocaol sy'n wynebu'r Cyngor mewn cyfnod heriol i drigolion, busnesau a chymunedau. Ar hyn o bryd rydyn ni'n wynebu diffyg yn y gyllideb (sef y gwahaniaeth rhwng faint sydd angen i ni ei wario a faint o arian sydd gyda ni). Mae'r diffyg yn fwy na £38 miliwn.

Rhaid i ni wneud penderfyniadau a chymryd camau i sicrhau bod ein cyllideb ar gyfer 2023/24 yn deg i bawb, yn diogelu ein gwasanaethau allweddol ac yn ein gadael ni mewn sefyllfa well ar gyfer flwyddyn nesaf.

Daw Ymgynghoriad Cam 2 i ben am 5pm ar 6 Chwefror 2023.

Diweddaru: 14 Mar 2023, 11:53 AC