Dewch i Siarad am y Gyllideb 2024 – 2025 (Cam 1)

Rhannu Dewch i Siarad am y Gyllideb 2024 – 2025 (Cam 1) ar Facebook Rhannu Dewch i Siarad am y Gyllideb 2024 – 2025 (Cam 1) Ar Twitter Rhannu Dewch i Siarad am y Gyllideb 2024 – 2025 (Cam 1) Ar LinkedIn E-bost Dewch i Siarad am y Gyllideb 2024 – 2025 (Cam 1) dolen

Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi dod i ben. Mae canlyniadau'r prosiect yma bellach yn cael eu dadansoddi. Byddwn ni'n ychwanegu dolenni i adroddiadau a rhagor o wybodaeth pan maen nhw ar gael.

Helpu ni i ddatblygu Strategaeth ar gyfer Cyllideb 2024/25.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn sefydliad mawr sy'n darparu ystod eang o wasanaethau ledled ardal Rhondda Cynon Taf, er enghraifft glanhau strydoedd, cartrefi i'r henoed, canolfannau hamdden, theatrau, llyfrgelloedd a darparu cyllid ar gyfer ein hysgolion ni a gweithio mewn partneriaeth â nhw i gynnig addysg o safon uchel i blant a phobl ifainc. Cyfanswm ei gyllideb refeniw net ar gyfer 2023/24 yw £610 miliwn ar ôl mynd i'r afael â bwlch yn y gyllideb o £38 miliwn. Mae'r rhan fwyaf o'r arian (78%) yn dod oddi wrth Lywodraeth Cymru gyda Threth y Cyngor yn cyfrif am 21% gyda chronfeydd wrth gefn y Cyngor yn cael eu defnyddio hefyd.

Mae amodau economaidd y Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn heriol dros ben, gydag economi'r byd wedi'i wanhau oherwydd y pandemig COVID a'r goblygiadau sydd wedi codi o ganlyniad i'r rhyfel yn Wcráin. Mae cyfradd chwyddiant yn parhau i fod yn uchel o'i chymharu â blynyddoedd blaenorol ac mae hynny'n cael effaith ar gostau disgwyliedig cyflenwadau yn y dyfodol, a hefyd ar gyllid busnesau lleol. Bydd y cynnydd yng nghostau byw i'n preswylwyr yn arwain at ragor o bobl yn dioddef o ran tlodi tanwydd a bwyd.

Mae'r Cyngor yn rhagweld bwlch yn y gyllideb sydd dros £35 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf (2024/25), gyda'r rhagolwg yma'n codi i dros £85 miliwn erbyn blwyddyn ariannol 2026/27.

Bydd llai o gyllideb ychwanegol gan Lywodraeth San Steffan, ac felly gan Lywodraeth Cymru, felly bydd angen i'r Cyngor leihau'r arian y mae'n ei wario bob blwyddyn ar wasanaethau'r Cyngor. Mae gan y Cyngor gronfeydd wrth gefn un-tro a bydd e'n defnyddio'r rhain yn rhan o'r cyfnod pontio i lefel wedi'i newid o wariant parhaus wrth symud ymlaen o ganlyniad i'r toriadau mewn termau gwirioneddol gan y Llywodraeth i'r cyllid. Does dim modd i ni ofyn i dalwyr treth y cyngor lleol yn unig lenwi'r bwlch.

Mae'r Cyngor hefyd wedi defnyddio peth o'i gronfeydd wrth gefn er mwyn cynnig cymorth ariannol i drigolion lleol a grwpiau cymunedol trwy gydol yr argyfwng costau byw, ac mae'r Cyngor wedi llwyddo i fuddsoddi yn ei wasanaethau a'i isadeiledd dros y blynyddoedd diwethaf, yn unol â'r cynllun hir dymor. Mae'r gwariant yma wedi sicrhau bod gwelliannau wedi bod i nifer o'n hardaloedd, yn enwedig ein hysgolion, canol trefi, ffyrdd, pontydd, parciau, llefydd chwarae, a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae'r Cyngor hefyd wedi derbyn adborth cadarnhaol gan drigolion ar sut mae'n defnyddio cronfeydd unwaith ac am byth i fuddsoddi mewn gwasanaethau ac mae'n ddull y mae'n bwriadu parhau ag ef i adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd yn eu lle.

Fodd bynnag, mae'r sefyllfa bellach yn gorfodi'r Cyngor i fynd i'r afael â'r diffygion sylweddol yn y gyllideb sydd wedi'u darogan, parhau â'i ddull cyfrifol o reoli arian cyhoeddus a blaenoriaethu sut mae'n defnyddio'r cyllid cyfyngedig sydd ar gael iddo.

Byddech cystal â llenwi'r arolwg isod i rannu eich barn chi ar y gyllideb, a'n helpu ni i ddatblygu Strategaeth ar gyfer Cyllideb 2024/25.

Diweddaru: 19 Rhag 2023, 04:59 PM