Dewch i Siarad Coed

Rhannu Dewch i Siarad Coed ar Facebook Rhannu Dewch i Siarad Coed Ar Twitter Rhannu Dewch i Siarad Coed Ar LinkedIn E-bost Dewch i Siarad Coed dolen

Mae tua un rhan o dair o Rondda Cynon Taf wedi’i gorchuddio â choed - mae hyn yn anghyffredin iawn i Fwrdeistref Sirol ble mae 240,000 o bobl yn byw. Mae ein hardaloedd adeiledig hyd yn oed â llawer o goed (18.5% ar gyfartaledd), ac mae hynny’n rhywbeth i’w ddathlu.

Dewch i ni edrych ar ôl ein coed

Mae coed yn hirhoedlog, maen nhw'n rhoi i ni barhad, yn rhoi cymeriad i'n tirweddau ac yn dod ag ychydig o harddwch i'n bywydau. Maen nhw'n dod â ni'n agosach at fyd natur, maen nhw'n newid gyda'r tymhorau ac yn rhoi cartref i fywyd gwyllt.

Mewn hinsawdd sy'n newid, mae ein coed yn hyd yn oed yn fwy gwerthfawr wrth iddyn nhw gynnig cysgod, amsugno'r cawodydd trwm, cadw pridd yn ei le a storio carbon. Mae coed a choetir hynafol yn unigryw ac felly mae angen i ni ofalu amdanyn nhw. Mae coed mwy yn cynnig mwy o fanteision hinsawdd, ond yn y pen draw bydd bob coeden yn marw. Mae'n rhaid i ni, felly, wneud yn siŵr bod digon o le i goed newydd dyfu a datblygu.

Mae'r newid yn yr hinsawdd a globaleiddio hefyd yn dod â chlefydau coed newydd, bygythiadau gan fwy o stormydd a sychder, sydd oll yn golygu bod angen mwy o ofal ar ein coed.

Dod yn rhan o bethau!

Ar y dudalen yma, gallwch chi roi gwybod i ni beth yw eich hoff goedwig neu goeden, anfon lluniau aton ni a rhannu eich meddyliau am ein coetir arbennig, a gallwch chi hefyd gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol goed a bioamrywiaeth yn Rhondda Cynon Taf drwy gael cip ar y galeri lluniau sydd ar y dde. Mae'r lluniau yma yn amrywio o ffwng ffantastig i goetiroedd hynafol!

Hefyd, drwy glicio ar y dolenni a phori trwy'r dogfennau, gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am bwysigrwydd coed a rhai ffeithiau diddorol. A oeddech chi’n gwybod, er enghraifft, bod coed, a phob planhigyn gwyrdd arall, yn rhan o broses wyrthiol o'r enw ffotosynthesis, ble maen nhw'n defnyddio egni'r haul i fwydo eu hunain ac yn gyrru'r 'gylchred garbon', sy'n ein cadw ni gyd yn fyw? Dysgwch ragor am y gylchred garbon, gweithgareddau hwyl i'r holl deulu, sut i adnabod coed, straeon sy'n ysbrydoli, prosiectau eraill sy'n ymwneud â'r hinsawdd a rhagor o syrpreisys am goed a choetiroedd ar ochr dde'r dudalen.

Rhannu Dathlu ein Coetiroedd ar Facebook Rhannu Dathlu ein Coetiroedd Ar Twitter Rhannu Dathlu ein Coetiroedd Ar LinkedIn E-bost Dathlu ein Coetiroedd dolen

Dathlu ein Coetiroedd

dros 1 flwyddyn

Beth am nodi eich hoff goetir neu goed yn RhCT a gadael sylw yn dweud wrthyn ni beth rydych chi'n ei hoffi fwyaf amdanyn nhw? 

Nodyn sydyn am y map:

Mae'r map yma yn dangos y coetiroedd mawr yn Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys y 'Coetir Hynafol', sydd wedi bod yno ers y flwyddyn 1600, o leiaf. Cofiwch fod llawer o'r coetir yma o dan berchnogaeth breifat ac felly os byddwch chi'n mynd i'w gweld, yna dylech chi gadw at Hawliau Tramwy Cyhoeddus neu dir sydd â Mynediad Agored, oni bai eich bod wedi cael caniatâd gan y perchennog.

Cyhoeddi: 07 Tach 2022, 03:55 PM