Dewch i Siarad am Eisteddfod 2024

Rhannu Dewch i Siarad am Eisteddfod 2024 ar Facebook Rhannu Dewch i Siarad am Eisteddfod 2024 Ar Twitter Rhannu Dewch i Siarad am Eisteddfod 2024 Ar LinkedIn E-bost Dewch i Siarad am Eisteddfod 2024 dolen

Mae’r ymgynghoriad yma wedi’i gau. Diolch i bawb a lenwodd yr arolwg, byddwn ni’n paratoi diweddariad i’ch ymatebion yn fuan.

Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru, un o wyliau celfyddydol mwyaf Ewrop, yn dychwelyd i Rondda Cynon Taf (3-10 Awst 2024) am y tro cyntaf ers bron i 70 mlynedd! Aberdâr oedd cartref yr Eisteddfod fodern gyntaf erioed pan gafodd ei chynnal yno yn 1861. Eisteddfod 2024 fydd yr wythfed Eisteddfod i gael ei chynnal yn Rhondda Cynon Taf.

Er bod yr Eisteddfod yn ŵyl Gymraeg, mae rhai dan yr argraff ei bod hi’n ŵyl ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn unig, mae hyn yn... ANGHYWIR! Mae'r Eisteddfod yn ŵyl gynhwysol sy'n croesawu pawb, does dim ots beth yw eich sgiliau Cymraeg chi, mae rhywbeth at ddant pawb ar y Maes!

Dyma’ch cyfle CHI i ddweud eich dweud ynglŷn â dychweliad yr Eisteddfod i Rondda Cynon Taf drwy lenwi'r arolwg byr ar waelod y dudalen. Ar y dudalen yma, mae modd ichi ddysgu rhagor am sut mae modd cymryd rhan ym mharatoadau'r Eisteddfod.

Pe hoffech chi gwblhau’r arolwg wyneb yn wyneb, mae croeso i chi ddod i unrhyw un o’r sesiynau canlynol:

Llyfrgell Treorci – 24 Awst, 10am - 4pm
Llyfrgell Aberdâr – 25 Awst, 10am - 4pm
Llyfrgell Pontypridd – 1 Medi, 10am - 4pm

PWYLLGORAU LLEOL
Mae Pwyllgorau Apêl lleol bellach wedi cael eu sefydlu yng nghymoedd Rhondda, Cynon a Thaf ac mae gwirfoddolwyr lleol wedi bod yn cwrdd er mwyn codi ymwybyddiaeth am yr Eisteddfod a thrafod syniadau am weithgareddau cymunedol ledled Rhondda Cynon Taf. Mae'n gyfle gwych i'ch clwb CHI, eich ysgol CHI, neu’ch sefydliad CHI gymryd rhan! Mae pob cyfarfod pwyllgor yn ddwyieithog ac mae croeso cynnes i unrhyw un ymuno! Cofrestrwch yma er mwyn dysgu rhagor am y cyfarfod nesaf yn eich ardal chi - https://eisteddfod.cymru/2024-helpu-help

NODDI
Mae noddi neu gyfrannu gwobr yn yr Eisteddfod yn ffordd wych o gefnogi'r pwyllgorau apêl lleol drwy gydnabod unigolyn, busnes neu sefydliad yn gyhoeddus. Mae modd ichi fynegi eich diddordeb i noddi un o brif wobrau'r Eisteddfod yma neu mae modd ichi ddod o hyd i restr o wobrau eraill yr Eisteddfod yma. Bydd pob ceiniog yn cael ei defnyddio er mwyn cynnal yr ŵyl ac mae'r Eisteddfod yn ddiolchgar iawn am bob cyfraniad.

GWIRFODDOLI
Dyw'r Eisteddfod ddim wedi cyhoeddi ei hymgyrch wirfoddoli ar gyfer Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 eto, bydd hyn yn mynd rhagddo ar ddechrau 2024. Beth allwch chi ei ddisgwyl? Byddwch chi'n un o'r garfan fydd yn croesawu miloedd o ymwelwyr i wahanol leoliadau ar hyd a lled y Maes. Bydd yr Eisteddfod yn cynnig hyfforddiant llawn i bawb ac yn barod i’ch helpu bob amser.

Ydych chi eisiau sgwrs anffurfiol ynglŷn â'r cyfrifoldebau a'r profiad? Cysylltwch â ni drwy e-bostio - gwyb@eisteddfod.cymru am sgwrs anffurfiol. Mae gwirfoddoli hefyd yn ffordd wych o ddechrau dysgu Cymraeg neu ddefnyddio eich sgiliau Cymraeg.

DYSGU CYMRAEG
Os ydych chi'n dysgu Cymraeg, ddim wedi’i defnyddio ers sbel neu wedi meddwl dechrau dysgu o'r blaen, does dim lle gwell i ymarfer na'r Eisteddfod! Sicrhewch eich bod chi'n ymweld â Maes D (pentref dysgwyr Cymraeg yr Eisteddfod) yn ystod eich amser ar y Maes er mwyn dod o hyd i gwrs sy'n gweithio ichi.

Mae ystod eang o gyrsiau dysgu Cymraeg ar gael yn lleol gyda Dysgu Cymraeg, ac mae modd ichi ddod o hyd i restr o foreau coffi Cymraeg ar dudalen gweithgareddau Menter Iaith Rhondda Cynon Taf lle mae modd ichi ddefnyddio eich sgiliau Cymraeg mewn amgylchedd anffurfiol.

COFIWCH: Defnyddiwch y Gymraeg sydd gyda chi, nid y Gymraeg rydych chi'n meddwl y dylech chi ei siarad.

Fe gafodd ei gyhoeddi'n ddiweddar y bydd Maes Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 ym Mhontypridd.

Diweddaru: 04 Sep 2023, 12:54 PM