Dewch i Siarad Gwastraff ac Ailgylchu.

Rhannu Dewch i Siarad Gwastraff ac Ailgylchu. ar Facebook Rhannu Dewch i Siarad Gwastraff ac Ailgylchu. Ar Twitter Rhannu Dewch i Siarad Gwastraff ac Ailgylchu. Ar LinkedIn E-bost Dewch i Siarad Gwastraff ac Ailgylchu. dolen

Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi dod i ben. Mae canlyniadau'r prosiect yma bellach yn cael eu dadansoddi. Byddwn ni'n ychwanegu dolenni i adroddiadau a rhagor o wybodaeth pan maen nhw ar gael.

Rydyn ni i gyd yn deall pwysigrwydd ailgylchu a does dim ots pa mor fawr yw ein hymdrechion, mae rhaid i ni roi ambell i eitem yn y bag du – OND a wyddoch chi mai dim ond tua 20% o'ch gwastraff y cartref sydd wir yn ddeunydd does dim modd ei ailgylchu!

Mae angen eich cymorth arnon ni i gael gwybod sut mae'n mynd a sut mae modd i ni eich helpu chi i gyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru, sef 70% erbyn 2024/25.

Rydyn ni i gyd yn gallu gwella ein harferion ailgylchu er mwyn sicrhau bod modd ailgylchu cymaint o wastraff ag y gallwn ni – o gewynnau, gwastraff bwyd, eitemau plastig, caniau, gwydr, i bapur. Mae modd ailgylchu'r rhan fwyaf o wastraff y cartref, boed hynny wrth ochr y ffordd neu mewn canolfan ailgylchu leol.

Mae'n amser i ni fynd i'r afael â hyn! Mae'n amser i ni siarad am ailgylchu a gwastraff!

Fel Cyngor, rydyn ni'n falch o'n gwasanaethau ailgylchu. Rydyn ni'n ymdrechu i sicrhau bod ein gwasanaeth casglu gwastraff ailgylchu mor hawdd â phosibl i drigolion, wrth gynnal lefelau ailgylchu da. Rydyn ni bob amser yn monitro'r hyn sy'n cael ei ailgylchu, ac yn ystyried ffyrdd o wella'r gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig.

Dros y blynyddoedd diwethaf, Cyngor RhCT oedd un o'r Cynghorau cyntaf i gyflwyno gwasanaeth ailgylchu cewynnau. Rydyn ni'n parhau i fod yn awdurdod arweiniol yn y maes yma trwy brosiect Dyfodol Gwyrdd Glân Llywodraeth Cymru. Yn ddiweddar, mae'n hymdrechion ni wedi golygu y bydd miliynau o fagiau plastig clir untro yn llai, a hynny o ganlyniad i gyflwyno'r sachau gwastraff gwyrdd. Roedd ein Cyngor yn un o'r cyntaf yng Nghymru i gynnal casgliadau bob pythefnos a chyfyngu ar nifer y bagiau du y byddwn ni'n eu casglu. Arweiniodd hyn at gynnydd enfawr yn y lefelau ailgylchu ledled y Fwrdeistref Sirol.

Erbyn hyn, mae angen eich cymorth arnon ni i gael gwybod sut mae'n mynd a sut mae modd i ni eich helpu chi i gyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru, sef 70% erbyn 2024/25.

Os na fyddwn ni'n bodloni'r targed yma, byddwn ni'n wynebu dirwyon mawr gwerth £140,000 am bob canran rydyn ni'n methu â'i gyflawni. Gallai talu'r symiau mawr o arian yma arwain at doriadau i wasanaethau neu effaith arnyn nhw.

Er mwyn dangos ein hymrwymiad i faterion newid yn yr hinsawdd, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn anelu at fodloni targed ailgylchu personol o 80% erbyn 2024/25. Y gyfradd ailgylchu bresennol ar gyfer Rhondda Cynon Taf yw 67% (2021/22). Felly mae rhaid i'r Cyngor weithio'n galed er mwyn annog trigolion RhCT i ailgylchu cymaint o wastraff ag sy'n bosibl.

Diweddaru: 09 Rhag 2022, 11:59 AC