Rhannu Dewch i Siarad Tonypandy ar FacebookRhannu Dewch i Siarad Tonypandy Ar TwitterRhannu Dewch i Siarad Tonypandy Ar LinkedInE-bost Dewch i Siarad Tonypandy dolen
STRATEGAETH NEWYDD AR GYFER CANOL TREF TONYPANDY
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf, ynghyd â chwmni The Urbanists, wedi datblygu Strategaeth Ddrafft ar gyfer Tonypandy a fydd yn helpu i dargedu buddsoddiad yn y dyfodol yng nghanol y dref.
Mae'r Strategaeth Ddrafft yn ymateb i'r adborth a dderbyniwyd yn ystod y gwaith ymgysylltu cynnar a gynhaliwyd rhwng mis Rhagfyr 2024 a mis Mawrth 2025. Roedd yr adborth yma wedi helpu i nodi amrywiaeth o themâu allweddol a chyfleoedd sy'n bodoli yng nghanol tref Tonypandy.
Un o brif nodau'r Strategaeth Ddrafft ydy newid y canfyddiadau sydd gan bobl mewn perthynas ag ardal Tonypandy, gan gefnogi Tonypandy i fod yn dref sy'n groesawgar, sy'n meithrin ac yn gymdeithasol, gan sefydlu ei lle a'i henw da yng Nghwm Rhondda
PAM RYDYN NI'N YMGYNGHORI
Er mwyn rhoi cyfle i’r cyhoedd wneud sylwadau mewn perthynas â Strategaeth Ddrafft Canol Tref Tonypandy.
Nodwch fod rhaid cyflwyno pob arolwg wedi'i gwblhau erbyn hanner nos 3 Hydref 2025. fan bellaf. Fyddwn ni ddim yn ystyried arolygon sy'n dod i law ar ôl y dyddiad yma.
DEILLIANNAU DISGWYLIEDIG
Bydd y gwaith ymgysylltu mewn perthynas â’r Strategaeth Ddrafft yn cael ei gynnal rhwng 11 Awst a 3 Hydref 2025. Bydd yr adborth o'r gwaith ymgysylltu yma’n llywio drafft terfynol o Strategaeth Canol Tref Tonypandy.

Diweddaru: 29 Awst 2025, 03:22 PM
Cylch Bywyd
Ymgysylltu Ffurfiol
Dewch i Siarad Tonypandy ar hyn o bryd yw
Casglu adborth, syniadau a barn yn ymwneud â Strategaeth Ddrafft Canol Tref Tonypandy gan y rhai sy'n ymweld â chanol y dref.