Cyllideb 2027-28

Cyflwyniad

Bob blwyddyn mae rhaid i'r Cyngor benderfynu sut i ddefnyddio'r arian sydd ganddo yn y ffordd orau. Mae'r rhan fwyaf o'r arian yma (79%) yn dod gan Lywodraeth Cymru. Mae'r gweddill yn dod o Dreth y Cyngor. Os oes angen, mae'r Cyngor yn gallu cymryd arian o'i gronfeydd wrth gefn ei hun.

 

Dros y blynyddoedd diwethaf mae cost cynnal gwasanaethau'r Cyngor wedi codi'n gyflymach na'r cyllid rydyn ni'n ei gael. Mae hyn yn golygu bod gennyn ni flwch, neu ddiffyg yn y gyllideb, ac mae rhaid i ni barhau i wneud dewisiadau anodd a phwysig i sicrhau bod y Cyngor yn parhau i reoli arian cyhoeddus yn dda. 

 

Yn yr arolwg yma, rydyn ni eisiau clywed gennych chi am rai o'n cynlluniau. Hoffen ni hefyd glywed eich awgrymiadau ynglŷn â sut rydyn ni'n gallu gwneud pethau'n wahanol. Ar ôl i'r ymgynghoriad yma ddod i ben ar 14 Rhagfyr 2026, byddwn ni'n meddwl am bopeth mae pobl wedi'i ddweud wrthyn ni, gan gynnwys chi, y cyhoedd a staff y Cyngor. Yna byddwn ni'n ysgrifennu Strategaeth Gyllideb ddrafft ar gyfer 2027-28 ac yn gofyn i bawb am eu safbwyntiau a'u barn ar hynny hefyd.

 

Diolch i chi am gymryd rhan. Mae wir yn ein helpu.

0% Ateb

RHAN UN: Gwasanaethau'r Cyngor

Yn y rhan yma byddwn ni'n gofyn i chi am y gwahanol wasanaethau mae'r Cyngor yn eu darparu.

1.  

Yn eich barn chi, pa mor bwysig yw pob un o'r meysydd gwasanaeth yma i bobl sy'n byw yn RhCT?

Gofal Cymdeithasol - Gwasanaethau i Oedolion: Gwasanaethau Asesu a Chynllunio Gofal - Gweithwyr Cymdeithasol, Cymorth Atal ac Ymyrraeth Gynnar, Gofal yn y Cartref, Cynlluniau Byw â Chymorth, Gwasanaethau/Canolfannau Oriau Dydd, Gwasanaethau Seibiant, Cyflogaeth â Chymorth, Gofal Preswyl
Gofal Cymdeithasol – Gwasanaethau i Blant: Gwasanaethau Asesu a Chynllunio Gofal - Gweithwyr Cymdeithasol, Gwasanaethau Atal ac Ymyrraeth Gynnar, Gwasanaethau Maethu a Mabwysiadu, Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd, Gwasanaethau i Blant Anabl, Cartrefi Preswyl, Cyfiawnder Ieuenctid
Diogelwch y Cyhoedd: Safonau Masnach, Iechyd yr Amgylchedd, Cofrestrydd, Cymunedau Diogel
Gwasanaethau Cymuned: Llyfrgelloedd, Addysg i Oedolion, Theatrau, Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid
Hamdden, Parciau a Chefn Gwlad: Canolfannau Hamdden/Pyllau Nofio, Parciau a Mannau Chwarae, Gwasanaethau Profedigaethau, Atyniadau i Ymwelwyr a Threftadaeth (Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, Parc Gwledig Cwm Dâr a Lido Pontypridd
Ysgolion
Materion Tai: Cyngor ar Faterion Tai a Chymorth â Digartrefedd
Anghenion Dysgu Ychwanegol: Plant a Phobl Ifainc
Addysg Heblaw yn yr Ysgol: Plant a Phobl Ifainc
Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles: Plant a Phobl Ifainc
Meithrin a'r Blynyddoedd Cynnar
Y Gwasanaethau Arlwyo: Ysgolion a Gwasanaethau Pryd-ar-Glud
Carfan Rheoli'r Priffyrdd: Goleuadau Stryd, Arwyddion Traffig a Signalau, Cynllunio ar gyfer Argyfyngau
Cludiant: Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol, Cymorth Cludiant i Deithwyr, Tocynnau Teithio Rhatach (i bobl gymwys ar gludiant cyhoeddus)
Glanhau'r Strydoedd:Cynlluniau Glanhau'r Strydoedd, Torri Gwair, Gweithgarwch Gorfodi, Wardeiniaid Cymunedol
Cynnal a Chadw'r Priffyrdd: Atgyweirio Ffyrdd a Gwaith Draenio, Cynnal a Chadw dros y Gaeaf (graeanu)
Y Gwasanaethau Gwastraff: Casglu a Phrosesu/Gwaredu Gwastraff – gan gynnwys gwastraff mae modd ei ailgylchu a gwastraff nad oes modd ei ailgylchu, gwastraff gwyrdd, cewynnau a baw cŵn, gweithgarwch o ran Addysg, Ymwybyddiaeth a Gorfodi
Gwasanaethau'r Parciau: Cynnal a Chadw a Rheoli'r Parciau