Cwestiynau Cyffredin
Beth yw Teithio Llesol?
Caiff y term Teithio Llesol ei ddefnyddio i ddisgrifio'r teithiau byr y mae pobl yn eu gwneud bob dydd ar droed neu ar feic er mwyn mynd i'r gwaith, i'r ysgol neu’r coleg, i'r siopau ac i gyfleusterau eraill. Mae modd i hyn hefyd fod yn berthnasol i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn neu gymhorthion symudedd eraill.
Dydy Teithio Llesol ddim yn cyfeirio at deithiau mae pobl yn eu gwneud am resymau hamdden, megis cerdded neu feicio yng nghefn gwlad.
Pam mae'r Cyngor yn ymgynghori ynghylch Teithio Llesol ar hyn o bryd?
Pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) yn wreiddiol yn 2013, gwnaeth y ddeddfwriaeth yma ofyniad cyfreithiol i Gynghorau yng Nghymru hyrwyddo a datblygu rhwydwaith o lwybrau Teithio Llesol yn eu hardal. Ers hynny, mae'r Cyngor wedi adeiladu isadeiledd newydd, wedi gwella llwybrau Teithio Llesol presennol ac wedi darparu cyfleusterau newydd er budd cerddwyr, pobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio a beicwyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob awdurdod lleol yng Nghymru adolygu ac ymgynghori ar eu cynlluniau ar gyfer Teithio Llesol yn y dyfodol.
Beth yw pwrpas yr ymarfer ymgynghori yma?
Mae modd i deithiau Teithio Llesol gynnig nifer o fanteision i unigolion a chymunedau lleol. Pe bai llai o deithiau byr yn cael eu gwneud mewn car, byddai iechyd a lles unigolion yn gwella, a byddai llai o lygredd yn yr aer lleol.
Hoffai'r Cyngor ehangu a gwella ansawdd a darpariaeth llwybrau Teithio Llesol ledled Rhondda Cynon Taf ymhellach, a bydd yr ymarfer ymgynghori yma'n ein helpu ni i wneud hynny.
Sut alla i gymryd rhan?
Mae'r cyfnod ymgynghori yn dechrau ar 29 Mai 2026 a bydd yn dod i ben ar 20 Awst 2026. Mae modd i chi gymryd rhan ar-lein drwy fynd i wefan y Cyngor a chwblhau'r holiadur. Fel arall, byddwn ni hefyd yn ymweld â nifer o leoliadau cyhoeddus yn Rhondda Cynon Taf os hoffech chi siarad â ni wyneb yn wyneb.
Mae fformatau amgen o'r holiadur hefyd ar gael ar gais drwy ffonio 01443 425001.
Yn rhan o'r ymarfer ymgynghori, bydd y Cyngor hefyd yn cysylltu â nifer o sefydliadau a chyrff lleol yn Rhondda Cynon Taf i gael eu barn a'u sylwadau.
Beth sy'n cael ei ddangos ar Fap Rhwydwaith Teithio Llesol y Cyngor?
Mae Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn dangos llwybrau Teithio Llesol presennol y mae modd eu defnyddio i gyrraedd cyfleusterau lleol yn ogystal â llwybrau newydd arfaethedig, yn seiliedig ar yr adborth a gawson ni sawl blwyddyn yn ôl yn dilyn ymarfer ymgynghori blaenorol. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen astudiaethau pellach ar y llwybrau penodol yma i edrych ar aliniad posibl y llwybrau newydd yma, yn ogystal â'r effaith beirianyddol ac amgylcheddol. Mae'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol hefyd yn dangos gwybodaeth ychwanegol i gynorthwyo cerddwyr, pobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio a beicwyr, ac mae dim ond yn cynnwys llwybrau presennol sy'n bodloni'r diffiniad o lwybr Teithio Llesol fel y'i nodir yn y canllawiau sy'n ymdrin â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.
Beth fydd yn digwydd i'r wybodaeth a roddaf yn rhan o'r ymarfer ymgynghori?
Bydd swyddogion sy'n rhan o'r ymarfer yma'n gweld pob ymateb a gaiff ei dderbyn gan Gyngor Rhondda Cynon Taf yn llawn. Mae’n bosibl y bydd adrannau eraill o fewn y Cyngor neu bartïon eraill yn gweld yr wybodaeth hefyd i helpu i wella'r gwasanaethau a gaiff eu darparu.
Mae’n bosibl hefyd y bydd y Cyngor yn defnyddio'r wybodaeth a gaiff ei derbyn i gyhoeddi dogfennau dilynol sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol â'r ymgynghoriad yma. Serch hynny, fydd y Cyngor byth yn datgelu unrhyw wybodaeth bersonol megis enwau neu gyfeiriadau a allai adnabod unigolyn.
Os nad ydych chi eisiau i'ch sylwadau gael eu cyhoeddi, nodwch hynny yn eich ymateb.
Beth fydd yn digwydd ar ôl i'r ymarfer ymgynghori ddod i ben?
Bydd y Cyngor yn trin a thrafod yr holl ymatebion y mae'n eu derbyn cyn cyflwyno fersiwn derfynol y Map Rhwydwaith Teithio Llesol i Lywodraeth Cymru erbyn 1 Rhagfyr 2026.