Dewch i Siarad am ein Drafft Strategaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion (2024 - 2030)

Rhannu Dewch i Siarad am ein Drafft Strategaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion (2024 - 2030) ar Facebook Rhannu Dewch i Siarad am ein Drafft Strategaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion (2024 - 2030) Ar Twitter Rhannu Dewch i Siarad am ein Drafft Strategaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion (2024 - 2030) Ar LinkedIn E-bost Dewch i Siarad am ein Drafft Strategaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion (2024 - 2030) dolen

Rydyn ni'n cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ein drafft o'r Strategaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion.

Trosolwg o'r Drafft Strategaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Y bwriad o ran y drafft yma o'r strategaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion gan Gyngor Rhondda Cynon Taf yw esbonio sut y byddwn ni'n rhoi gofal cymdeithasol i oedolion i bobl sydd ag anghenion cymwys ar gyfer y 5 mlynedd nesaf.

Ein gweledigaeth yw y bydd:

Pob person yn Rhondda Cynon Taf y mae angen gofal a chymorth arnyn nhw, yn cael eu grymuso i fyw mewn man y maen nhw'n gallu ei alw’n gartref, gyda phobl sy’n bwysig iddyn nhw, mewn cymunedau gofalgar lle mae pobl yn gefn i'w gilydd, yn gwneud pethau sy’n bwysig iddyn nhw.

Canolbwynt ein drafft o'r strategaeth yw'r model gwasanaeth isod:

  • Annog pobl i helpu eu hunain.
  • Rhoi cymorth i bobl pan maen nhw'n dweud bod angen cymorth arnyn nhw.
  • Bod yn gefn i bobl fyw bywyd da.

Dyma ein blaenoriaethau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf:

  1. Byddwn ni'n cysylltu pobl â’u cymunedau.
  2. Byddwn ni'n ei gwneud yn fwy syml ac yn haws i bobl fod yn annibynnol.
  3. Byddwn ni'n cefnogi pobl i gael man diogel i fyw ynddo lle maen nhw'n teimlo'n gartrefol.
  4. Rydyn ni am i bobl fod â system gymorth sy'n un gysylltiedig.
  5. Rydyn ni am i bobl gael budd o weithlu sy'n ymgysylltu'n dda ac sydd wedi'i hyfforddi'n dda.
  6. Byddwn ni'n gwella safonau a chynaliadwyedd y gwasanaeth yn barhaus.

Rhagor o wybodaeth

Mae'r drafft o'r Strategaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion, gan gynnwys fersiwn hawdd ei deall, ynghlwm isod/ar ochr dde'r dudalen we yma.

Cyfleoedd i fod yn rhan o bethau

Bydd cyfleoedd i roi mewnbwn ac i randdeiliaid gymryd rhan. Ymhlith y rhain bydd:

  • Gwybodaeth / Rhannu gwybodaeth
  • Cyfleoedd i wneud awgrymiadau a sylwadau.
  • Trafodaethau mewn grwpiau a gweithgareddau sy'n bodoli eisoes
  • Ymgyrch cyfathrebu wedi'i thargedu

Beth yw'ch barn chi?

Byddem ni'n falch o gael eich barn chi ar y strategaeth gofal cymdeithasol i oedolion sydd yn yr arfaeth, a'ch safbwyntiau ar y blaenoriaethau rydyn ni wedi eu gosod ar gyfer y 5 mlynedd nesaf.

Fe allwch chi helpu drwy lenwi'r holiadur byr sydd isod neu drwy ymuno â grwpiau a fydd yn trafod y cynnwys dan sylw. Arolwg yn cau 19eg Awst 2024:

Ymholiadau

Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r ymgynghoriad neu'r strategaeth, gallwch e-bostio ni ymgynghori@rctcbc.gov.uk.

Pe bai’n well gyda chi siarad â rhywun, ffoniwch 01443 425014 - rhwng 9am a 5pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener.

Mae croeso i chi gyfathrebu â ni yn Gymraeg. Fydd hyn ddim yn arwain at unrhyw oedi.

Diweddaru: 02 Jul 2024, 06:54 AC