Dewch i Siarad am Wefru Cerbydau Trydan

Rhannu Dewch i Siarad am Wefru Cerbydau Trydan ar Facebook Rhannu Dewch i Siarad am Wefru Cerbydau Trydan Ar Twitter Rhannu Dewch i Siarad am Wefru Cerbydau Trydan Ar LinkedIn E-bost Dewch i Siarad am Wefru Cerbydau Trydan dolen

Dewch i Siarad am Wefru Cerbydau Trydan 

Wrth weithio tuag at ei nod o ddod yn Awdurdod Lleol Carbon Niwtral erbyn 2030, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn helpu i lywio datblygiad mannau gwefru cerbydau trydan ledled y Fwrdeistref Sirol yn y dyfodol drwy gyflwyno rhagor o bwyntiau gwefru a hwyluso'r newid i ddefnyddio Cerbydau Allyriadau Isel Iawn.

Cliciwch yma i fwrw golwg ar ganlyniadau ein hymgynghoriad diwethaf ar y cynlluniau i ddatblygu mannau gwefru cerbydau trydan yn y dyfodol.

Yn dilyn hyn, rydyn ni bellach wedi llunio Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan, Cynllun Gweithredu a Chynllun Cyflawni i amlinellu'r egwyddorion allweddol a fydd yn grymuso'r Cyngor i gynghori, helpu a chefnogi unigolion, neu bartïon, sy'n dymuno newid o gerbydau confensiynol i gerbydau trydan.

Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan 

Nod y Strategaeth yw darparu trosolwg o'r gwaith sydd ar waith ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol i ddatblygu rhwydwaith cadarn ac ymarferol ar gyfer gwefru cerbydau trydan ledled y Fwrdeistref Sirol. Bydd hefyd yn annog pobl i newid o ddefnyddio cerbydau petrol a disel i ddefnyddio cerbydau trydan yn rhan o nodau trafnidiaeth gynaliadwy ehangach y Cyngor. Mae'r Strategaeth yn nodi 10 Uchelgais. Nod y rhain yw cydlynu dull gweithredu ledled y Fwrdeistref Sirol i hyrwyddo ac annog datblygiad rhwydwaith gwefru cerbydau trydan cadarn yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir.

Cliciwch yma i fwrw golwg ar y Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan. 

Ein Huchelgeisiau

  1. Datblygu Cynllun Gweithredu i gyflwyno seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan yn raddol wedi'i alinio â'r galw yn y dyfodol, gyda gwefrwyr sy'n addas o ran cyflymder a phŵer ar gyfer pob cerbyd gan gynnwys ceir, tacsis, bysiau, e-feiciau modur, e-feiciau, sgwteri symudedd
  1. Dangos yr angen am Seilwaith Cerbydau Trydan trwy weithio gyda phartneriaid, ble bo hynny'n berthnasol, i sicrhau cyfleoedd cyllid allanol a helpu i ateb y galw
  1. Adolygu ein Polisïau Cynllunio, wrth weithio gyda thirfeddianwyr a datblygwyr i sicrhau bod y cyfleoedd pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn cael eu nodi a'u dilyn, i hyrwyddo dulliau cludo cynaliadwy
  1. Monitro ansawdd yr aer, i werthuso'r berthynas rhwng y nifer sy'n prynu cerbydau trydan ac ansawdd gwell yr aer, gan hyderu y bydd effeithiau niweidiol llygryddion aer ar iechyd y cyhoedd yn cael eu lleihau
  1. Datblygu cyfres o fodelau ar gyfer ariannu, lleoli a rheoli
  1. Nodi'r holl gyrchfannau addas ar gyfer gosod pwyntiau gwefru ('Gwefru Cyrchfan') 
  1. Nodi lleoliadau addas ar gyfer 'Gwefru yn y Gweithle' ar draws holl safleoedd y Cyngor a gweithio gyda sectorau eraill, ble bo hynny'n berthnasol, i gynyddu gwefru yn y gweithle, i ateb y galw fel sy'n briodol
  1. Gweithio gyda thrigolion i godi ymwybyddiaeth a chanfod y ffordd orau o wefru cerbydau ble mae cyfyngiadau cynllunio, corfforol a/neu dechnegol yn golygu nad yw'r dull dewisol o wefru yn ymarferol nac yn gyraeddadwy
  1. Ystyried y posibilrwydd o gyflwyno clybiau ceir yn y Fwrdeistref Sirol
  1. Trawsnewid ein fflyd mewn ffordd gynlluniedig ac ymarferol fel bod y dull cludo'n fwy cynaliadwy

Cynllun Gweithredu ar gyfer Gwefru Cerbydau Trydan 

Yn dilyn cyhoeddi'r Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan, cafodd Cynllun Gweithredu Gwefru Cerbydau Trydan ei ddatblygu sydd â'r nod o ddarparu canllawiau a chyngor ar arferion gorau i ddatblygu rhwydwaith gwefru cerbydau trydan cynhwysfawr ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae hyn yn cynnwys cyfleusterau gwefru mewn ysgolion, mannau parcio i ymwelwyr a chwsmeriaid, yn y gweithle, mannau cyhoeddus a mannau parcio sy'n cael eu cynnal gan y Cyngor. 

Nodau'r Cynllun Gweithredu: 

  • Nodi themâu allweddol i gefnogi'r Cyngor i ddarparu seilwaith gwefru ledled y Fwrdeistref Sirol
  • Darparu canllawiau a chyngor ar arferion gorau ar sut i ddatblygu rhwydwaith gwefru cerbydau trydan cynhwysfawr sy'n ymateb i'r galw presennol am seilwaith cerbydau trydan ac a fydd yn ymateb i'r galw cynyddol yn y dyfodol
  • Sefydlu set glir o gamau gweithredu i lywio’r gwaith o gyflawni Uchelgeisiau Gwefru Cerbydau Trydan y Cyngor

Cliciwch yma i fwrw golwg ar Gynllun Gweithredu ar gyfer Gwefru Cerbydau Trydan.

Cynllun Cyflawni Seilwaith 

Nod y Cynllun Cyflawni Seilwaith atodol, sy'n gysylltiedig â Strategaeth Mynd i'r Afael â Newid yn yr Hinsawdd y Cyngor, yw cefnogi'r broses o ddarparu seilwaith gwefru ledled y Fwrdeistref Sirol ac argymell y camau tymor byr, tymor canolig a pharhaus sydd eu hangen i gynorthwyo’r cynnydd a llywio’r ffordd ymlaen wrth gyflawni’r Uchelgeisiau a grybwyllwyd uchod dros y blynyddoedd i ddod. Cliciwch yma i fwrw golwg ar fanylion pob gweithred.

Y Diweddaraf am Osod Pwyntiau Gwefru

Pwyntiau gwefru ar y stryd i breswylwyr 

Ar hyn o bryd, does dim modd i Awdurdod Priffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf gefnogi gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan preifat ar y briffordd gyhoeddus, na gerllaw na throstyn nhw. Er budd diogelwch ar y briffordd ac mewn perthynas â chynnal a chadw yn y dyfodol, does dim modd i'r Awdurdod Priffyrdd ganiatáu llusgo ceblau, hyd yn oed gyda defnyddio troshaen neu grid cilfachog ar draws priffordd gyhoeddus neu lwybr troed, neu sianelu ceblau o dan y llwybr troed. Mae hyn oherwydd materion atebolrwydd cyhoeddus, gan gynnwys y risg o beryglon baglu a materion diogelwch trydanol mwy cymhleth ar y pwynt defnydd. 

Er gwaethaf hyn, mae’r Cyngor wedi sicrhau cyllid i osod Mannau Gwefru Cerbydau Trydan mewn nifer o fannau parcio cyhoeddus ar draws y Fwrdeistref Sirol, yn agos at ardaloedd preswyl.

Pwyntiau gwefru cyhoeddus
Drwy gydweithio ag Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid i osod pwyntiau gwefru cyflym 7kw i 22kw at ddefnydd cyhoeddus mewn 31 o feysydd parcio ledled Rhondda Cynon Taf. Mae’r rhaglen yn rhan o gynllun ehangach sy’n cael ei gyflwyno ar draws 10 awdurdod lleol ardal Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Y gobaith yw y bydd y rhaglen yn parhau i ehangu dros y blynyddoedd nesaf.

 Cliciwch yma i fwrw golwg ar yr wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â datblygiad y gwaith gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan. 

Cliciwch yma i fwrw golwg ar gwestiynau cyffredin mewn perthynas â gweithredu pwyntiau gwefru cerbydau trydan ledled y Fwrdeistref Sirol.

Dod yn rhan o bethau

Ble hoffech chi weld pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan yn y gymuned? 

Bydd y Cyngor yn edrych ar fannau allweddol i osod pwyntiau gwefru mewn lleoliadau cyhoeddus ledled Rhondda Cynon Taf. Mae modd i'r rhain gynnwys:

  • Canolfannau hamdden
  • Meysydd parcio
  • Atyniadau i dwristiaid ac atyniadau diwylliannol
  • Canol trefi

Mae'r Cyngor yn awyddus i weld ble mae diddordeb y cyhoedd a'r galw am bwyntiau gwefru cymunedol o'r fath. Defnyddiwch y map i roi gwybod i ni beth yw eich barn ac i roi eich sylwadau. I ollwng pin, cliciwch y botwm + ar ochr chwith y dudalen.

Mae modd i ni gasglu awgrymiadau ar gyfer lleoliadau yn Rhondda Cynon Taf yn unig. Bydd unrhyw binnau neu awgrymiadau y tu allan i ardal y Cyngor yn cael eu hanwybyddu.

Os ydych chi eisoes yn berchen ar Gerbyd Trydan, rhannwch eich profiadau - cadarnhaol neu negyddol - gyda ni...

Diolch am rannu.

AR GAU