Dewch i Siarad am Lifogydd
Helpwch ni i ddatblygu Strategaeth Gyfathrebu a Chynllun Gweithredu Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn datblygu Strategaeth Gyfathrebu a Chynllun Gweithredu Rheoli Perygl Llifogydd i wella sut rydyn ni'n rhannu gwybodaeth ynglŷn â pherygl llifogydd a helpu cymunedau i baratoi ar gyfer llifogydd, ymateb iddyn nhw, ac adfer ar ôl achosion o lifogydd.
Mae'r Cyngor eisiau deall:
- Pa mor effro yw pobl i berygl llifogydd;
- Pa mor barod mae pobl yn teimlo ar gyfer llifogydd;
- Sut mae pobl yn derbyn gwybodaeth ar hyn o bryd; a
- Sut yr hoffen nhw dderbyn gwybodaeth yn y dyfodol.
Bydd eich ymatebion yn helpu i lunio dull y Cyngor yn y dyfodol o ran cyfathrebu ac ymgysylltu â thrigolion, busnesau a chymunedau mewn perthynas â pherygl llifogydd.
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal am 6 wythnos rhwng 10 Awst 2026 a 21 Medi 2026.
Cyd-destun
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yw'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ar gyfer ei ardal weinyddol, ac o dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, mae ganddo ddyletswydd i ddatblygu Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol.
Mae ail Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a'r Cynlluniau Gweithredu cysylltiedig ar gael ar wefan y Cyngor. Mae'r Cynllun Gweithredu wedi'i ddiweddaru, a bellach yn berthnasol i’r cyfnod rhwng 2026 a 2028, yn cynnwys camau gweithredu i ddatblygu Strategaeth Gyfathrebu, a Chynllun Gweithredu cysylltiedig, sefydlu fframwaith cydlynol ar gyfer cyfathrebu ynghylch perygl llifogydd a gweithgarwch rheoli perygl llifogydd ledled Rhondda Cynon Taf.
Mae Strategaeth Gyfathrebu Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor yn ceisio gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o berygl llifogydd, annog parodrwydd a chymryd camau gweithredu gwybodus, a chefnogi’r gwaith o ddatblygu cydnerthedd unigolion a chymunedau yn Rhondda Cynon Taf.
Nod yr ymgynghoriad cyhoeddus yma yw casglu barn, profiadau a disgwyliadau trigolion, busnesau a rhanddeiliaid eraill er mwyn helpu i lywio cynnwys a blaenoriaethau'r Strategaeth Gyfathrebu ddrafft.
Ar ôl i ni lunio fersiwn ddrafft, bydd y Strategaeth Gyfathrebu hefyd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus pellach yn y dyfodol. Bydd modd i drigolion ddweud eu dweud cyn i'r Strategaeth derfynol gael ei thrafod gan Aelodau'r Cabinet yn y dyfodol.