Rhannu Parhau i Siarad Am Beth sy'n Bwysig i Chi ar FacebookRhannu Parhau i Siarad Am Beth sy'n Bwysig i Chi Ar TwitterRhannu Parhau i Siarad Am Beth sy'n Bwysig i Chi Ar LinkedInE-bost Parhau i Siarad Am Beth sy'n Bwysig i Chi dolen
Croeso i dudalen Ymgysylltu Cynllun Corfforaethol Cyngor Rhondda Cynon Taf
Croeso i drydydd Cynllun Corfforaethol y Cyngor. Mae'r cynllun yn nodi lle byddwn ni'n canolbwyntio ein gwaith hyd at 2030, a'r deilliannau y gallwch chi ddisgwyl eu gweld, oherwydd ein gwaith fel Cyngor ac yn ein gwaith gyda phartneriaid a rhanddeiliaid eraill.
Mae'r Cynllun wedi'i strwythuro o gwmpas pedwar amcan llesiant a fydd yn ein helpu i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Rhondda Cynon Taf
Mae ein hamcanion Lles yn gweithredu fel y pileri sy’n arwain gwaith y Cyngor ac yn categoreiddio ein blaenoriaethau. Mae 78 o flaenoriaethau yn y Cynllun Corfforaethol ac mae gyda phob blaenoriaeth gamau gweithredu, mesurau a thargedau sy'n cael eu hadrodd arnyn nhw'n chwarterol i gyfarfodydd y Cabinet drwy Adroddiad Cyflawniad Chwarterol y Cyngor. I gael rhagor o wybodaeth am y camau hyn, darllenwch y Cynllun Corfforaethol llawn ac Adroddiad Cyflawniad y Cyngor.
Ar y dudalen hon bydd modd i chi rhannu eich barn, eich meddyliau a'ch syniadau am yr hyn sy'n bwysig i chi, a dweud eich dweud ar gynlluniau'r Cyngor ar gyfer y dyfodol trwy ein dulliau ymgysylltu parhaus. Bob blwyddyn, mae'r Cyngor yn datblygu cynlluniau gweithredu blynyddol manwl i gyflawni'r blaenoriaethau a nodir yn ei Gynllun Corfforaethol. Bydd eich barn a'ch syniadau sy’n cael eu nodi ar y dudalen yma'n cael eu defnyddio fel tystiolaeth i'n helpu i lunio a llywio'r cynlluniau gweithredu manwl yma, ac felly, rydych chi'n chwarae eich rhan i helpu i wella lles Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Ddim yn siŵr beth mae'r Cyngor yn ei gynnig? Cymerwch olwg ar y map isod i weld rhai o’r gwasanaethau a’r gweithgareddau y mae’r Cyngor yn eu darparu:
I gael rhagor o wybodaeth am ddatblygiad, darpariaeth a chyflawniad y Cynllun Corfforaethol, defnyddiwch y dolenni defnyddiol
Dywedwch wrthon ni beth sy'n bwysig i chi yn yr adran Syniadau isod er mwyn dweud eich dweud ar gynlluniau'r Cyngor