Cwestiynau Cyffredin
Beth yw ystyr cymryd rhan?
Yn y strategaeth rydyn ni’n disgrifio’r pedair lefel o gymryd rhan: Darparu Gwybodaeth, Ymgysylltu, Ymgynghori a Chyd-gynhyrchu.

Bydd lefel cymryd rhan sy’n cael eu defnyddio ar bob prosiect yn RhCT yn amrywio gan ddibynnu ar y math o benderfyniadau sy’n cael eu gwneud, yr amserlenni a’r adnoddau sydd gyda ni ar gael.
Pwy all gymryd rhan?
Rydyn ni’n ceisio cael ystod eang o bobl yn rhan o’n trafodaethau. Rhanddeiliaid yw’r enw rydyn ni’n ei ddefnyddio ar gyfer y bobl a’r sefydliadau hynny y bydd ein penderfyniadau yn effeithio arnyn nhw – mae modd i’r rhestr o randdeiliaid fod yn wahanol ar gyfer penderfyniadau a phrosiectau gwahanol.
