Rhannu Dewch i Siarad am Flodau Gwyllt ar FacebookRhannu Dewch i Siarad am Flodau Gwyllt Ar TwitterRhannu Dewch i Siarad am Flodau Gwyllt Ar LinkedInE-bost Dewch i Siarad am Flodau Gwyllt dolen
Efallai nad oeddech chi wedi sylweddoli, ond mae'n debygol iawn eich bod chi'n byw wrth ymyl rhai o'r glaswelltiroedd a'r rhostiroedd cyfoethocaf yn Ne Cymru.
Gyda'i dirwedd gyfoethog ac amrywiol, nid yn unig o ran hanes y mae Rhondda Cynon Taf yn gyfoethog – mae hefyd yn llawn planhigion, ffyngau, pryfed ac anifeiliaid rhyfeddol. O borfeydd y Rhos i orlifdiroedd, mae yna amrywiaeth helaeth o flodau gwyllt brodorol yn aros i gael eu darganfod. Hefyd felly y glaswellt yn ein parciau, safleoedd cefn gwlad, mynwentydd, tiroedd ysgolion ac ymylon ffyrdd.
Mae modd i laswelltiroedd chwarae rhan fawr o ran dal a storio carbon. Dyna'r rheswm mae mor bwysig eu rheoli a'u cadw. Yn RhCT, caiff tua 130 hectar o dir ei reoli ar gyfer blodau gwyllt (10ha yn fwy na'r llynedd); mae hynny gyfwerth â tua 136 o gaeau stadiwm y Mileniwm ac rydyn ni'n gobeithio ychwanegu rhagor at hyn y flwyddyn nesaf.
Rydyn ni'n defnyddio dau ddull o reoli: pori er lles cadwraeth a dull 'lladd gwair'. Mewn ardaloedd addas, mae nifer fach o dda byw, gwartheg fel arfer, yn pori'r caeau am ran o'r flwyddyn. Ar ymylon ffyrdd a pharciau, caiff glaswellt ei dorri yn yr hydref a chaiff y toriadau eu casglu. Caiff y toriadau eu defnyddio i greu pentyrrau cynefin ('pentyrrau eco'), a chaiff rhain eu defnyddio yn ddiweddarach gan ymlusgiaid a mamaliaid bach. Lle nad yw hyn yn bosibl, caiff y glaswellt sydd wedi'i dorri ei gludo i'n canolfan ailgylchu gwastraff gwyrdd agosaf. Mae'r ddau ddull o reoli yn gweddu i'n blodau gwyllt, gan ganiatáu iddyn nhw flodeuo a gosod hadau, a chael gwared ar rywfaint o'r glaswellt sy'n cystadlu ac yn mygu.
Cymerwch ran yn ein sgwrs ddiweddaraf trwy wneud y canlynol:
-Cymryd rhan yn ein Harolygon Barn Byr
-Plotio ardaloedd yn RhCT ar ein map rhyngweithiolrydych chi o'r farn y dylid eu hystyried ar gyfer rheoli blodau gwyllt, a phostio'ch lluniau o'r blodau gwyllt rydych chi wedi'u gweld yn ddiweddar neu wedi'u gweld o'r blaen yn eich ardal.
-Rhannu'ch syniadau gyda nio ran sut rydych chi'n rheoli'ch gardd / ardal awyr agored ar gyfer blodau gwyllt.
Iddysgu rhagor am reoli blodau gwyllt, edrychwch ar ein hadran 'Dogfennau Defnyddiol'ar yr ochr dde sy'n cynnwys canllaw defnyddiol a daflen ffeithiau Jac Y Neidiwr.

Mae 'Gafael yn eich Rhaca' yn fenter y Cyngor i reoli ardaloedd â gwair lle nad oes modd defnyddio peiriant i dorri na chasglu'r toriadau gwair. Gallai'r rheswm dros hyn fod oherwydd eu bod nhw ar lethr neu dir anwastad neu oherwydd ein bod ni'n ceisio gwarchod cynefin presennol megis hen dwmpathau morgrug.
Er mwyn ein helpu ni, rydyn ni'n gofyn i aelodau'r gymuned ymuno â ni i racanu'r ardaloedd yma fel bod modd i ni sicrhau'r amodau tyfu gorau ar gyfer blodau gwyllt y flwyddyn nesaf.
Bydd angen menig, esgidiau a dillad addas a rhaca arnoch chi.
Mae pob achlysur yn dechrau am 10am.
Os hoffech chi ymuno â ni, e-bostiwch Parciaucefngwlad@rhondda-cynon-taf.gov.uk, gan nodi Gafael yn eich Rhaca a rhoi gwybod pa achlysur isod sydd o ddiddordeb i chi. Byddwn ni'n anfon rhagor o wybodaeth atoch chi.
Dyddiadau:
Dydd Gwener 3 Medi:
Rhodfa Talygarn, Pont-y-clun (llain las)
Cae Pugh, Parc Aberdâr
Dydd Sadwrn 4 Medi:
Parc Blaenrhondda, Blaenrhondda
Neuadd Sant Dyfrig, Trefforest
Dydd Gwener 10 Medi:
Maes Chwaraeon Hendreforgan, Gilfach-goch
Arolygon Barn Byr
Rhannu 1) Ydych chi'n hoffi gweld darnau o laswellt sydd wedi'u gadael heb eu torri ar gyfer blodau gwyllt? ar FacebookRhannu 1) Ydych chi'n hoffi gweld darnau o laswellt sydd wedi'u gadael heb eu torri ar gyfer blodau gwyllt? Ar TwitterRhannu 1) Ydych chi'n hoffi gweld darnau o laswellt sydd wedi'u gadael heb eu torri ar gyfer blodau gwyllt? Ar LinkedInE-bost 1) Ydych chi'n hoffi gweld darnau o laswellt sydd wedi'u gadael heb eu torri ar gyfer blodau gwyllt? dolen
Yn ystod gaeaf 2020, roedd ein carfanau Gofal y Strydoedd yn brysur yn gosod pyst gyda'n logo Glöyn 'Brwmstan' i nodi rhai o'r ymylon sy'n dod o dan y cynllun yma. Beth am weld a oes modd i chi ddod o hyd iddyn nhw? #DilynyGlöyn #FollowtheButterfly?
Mae'r Bartneriaeth 'Gweithredu dros Natur' Leol yn datblygu cynllun newydd ar gyfer Natur yn Rhondda Cynon Taf. Os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â Rose (r.revera@npt.gov.uk) neu dilynwch y Bartneriaeth ar Twitter: @RCTLNP