
Arolwg – Strategaeth Gyllideb 2026 – 2027 Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Rydyn ni wedi cyrraedd Cam 2 o'r broses ymgynghori mewn perthynas â phenderfynu ar Strategaeth Gyllideb 2026 - 2027 Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Cafodd Cam 1 ei gynnal rhwng 3 Tachwedd a 15 Rhagfyr 2025 ac roedd yn ceisio barn pobl ar flaenoriaethau ariannol y Cyngor. Mae modd i chi fwrw golwg ar adroddiad yr ymgynghoriad Cam 1 ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Yn ystod Cam 2, hoffen ni geisio'ch barn chi ynghylch penderfyniadau penodol y mae'n rhaid eu gwneud mewn perthynas â chyllideb 2026 – 2027. Bydd cyfarfod o Gabinet y Cyngor yn cael ei gynnal ar 23 Chwefror i lunio'r Strategaeth Gyllideb derfynol. Bydd y Cyngor Llawn yn gwneud penderfyniad mewn perthynas â’r Strategaeth derfynol yn ystod cyfarfod nesaf y Cyngor Llawn ar 4 Mawrth.
Mae'r cynigion sydd wedi'u cynnwys yn yr arolwg yma wedi'u cynnig gan Uwch Reolwyr CBSRhCT a hynny ar ôl iddyn nhw ystyried y sefyllfa ariannol gyfredol yn RhCT, yn ogystal â'r ymatebion i'r ymgynghoriad Cam 1 a'r anghenion gwasanaeth a ragwelir ym mhob rhan o'r Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Sut byddwn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol:
Dim ond at ddibenion yr ymgynghoriad yma y bydd yr wybodaeth rydych chi'n ei rhoi yn cael ei defnyddio. I gael manylion am sut mae eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio, ewch i Hysbysiad Preifatrwydd ynghylch Ymgynghori a Thudalennau Diogelu Data'r Cyngor.
0% Ateb
