
Cyllideb 2027-28
Cyflwyniad
Bob blwyddyn mae rhaid i'r Cyngor benderfynu sut i ddefnyddio'r arian sydd ganddo yn y ffordd orau. Mae'r rhan fwyaf o'r arian yma (79%) yn dod gan Lywodraeth Cymru. Mae'r gweddill yn dod o Dreth y Cyngor. Os oes angen, mae'r Cyngor yn gallu cymryd arian o'i gronfeydd wrth gefn ei hun.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae cost cynnal gwasanaethau'r Cyngor wedi codi'n gyflymach na'r cyllid rydyn ni'n ei gael. Mae hyn yn golygu bod gennyn ni flwch, neu ddiffyg yn y gyllideb, ac mae rhaid i ni barhau i wneud dewisiadau anodd a phwysig i sicrhau bod y Cyngor yn parhau i reoli arian cyhoeddus yn dda.
Yn yr arolwg yma, rydyn ni eisiau clywed gennych chi am rai o'n cynlluniau. Hoffen ni hefyd glywed eich awgrymiadau ynglŷn â sut rydyn ni'n gallu gwneud pethau'n wahanol. Ar ôl i'r ymgynghoriad yma ddod i ben ar 14 Rhagfyr 2026, byddwn ni'n meddwl am bopeth mae pobl wedi'i ddweud wrthyn ni, gan gynnwys chi, y cyhoedd a staff y Cyngor. Yna byddwn ni'n ysgrifennu Strategaeth Gyllideb ddrafft ar gyfer 2027-28 ac yn gofyn i bawb am eu safbwyntiau a'u barn ar hynny hefyd.
Diolch i chi am gymryd rhan. Mae wir yn ein helpu.
0% Ateb
