Cyllideb 2027-28 (Cam 1)

Rhannu Cyllideb 2027-28 (Cam 1) ar Facebook Rhannu Cyllideb 2027-28 (Cam 1) Ar Twitter Rhannu Cyllideb 2027-28 (Cam 1) Ar LinkedIn E-bost Cyllideb 2027-28 (Cam 1) dolen

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (y Cyngor) yn gyfrifol am lawer o'r gwasanaethau cyhoeddus mae pobl sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf yn eu defnyddio o ddydd i ddydd. Mae'r rhain yn cynnwys gofal cymdeithasol a gwasanaethau i'r henoed, canolfannau hamdden, theatrau, llyfrgelloedd, glanhau'r strydoedd a chasglu gwastraff, trwyddedu, parciau, darparu cyllid i'n hysgolion a gweithio'n rhan o bartneriaeth â nhw i ddarparu addysg o safon i blant a phobl ifainc.

Mae angen llawer o staff ac arian arnon ni i wneud hyn i gyd. Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn cyflogi tua 10,000 o bobl, ac mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n byw yn RhCT. Bob blwyddyn mae rhaid i ni benderfynu sut i ddefnyddio'r arian sydd gennyn ni yn y ffordd orau. Mae'r rhan fwyaf o'r arian yma (79%) yn dod gan Lywodraeth Cymru. Mae'r gweddill yn dod o Dreth y Cyngor. Os oes angen, mae'r Cyngor yn gallu cymryd arian o'i gronfeydd wrth gefn ei hun.

Hoffech chi ragor o wybodaeth am sut mae cyllideb y Cyngor yn gweithio, sut mae'r gyllideb yn cael ei gwario, Treth y Cyngor a Chronfeydd Wrth Gefn y Cyngor? Cliciwch ar y dolenni i'n fideos ar-lein yn y ddewislen ar y dde neu ar waelod y dudalen yma.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae cost cynnal gwasanaethau'r Cyngor wedi codi'n gyflymach na swm y cyllid rydyn ni'n ei gael. Mae hyn wedi golygu bod rhaid i'r Cyngor fynd i'r afael â blwch sylweddol yn y gyllideb. Mae disgwyl i'r sefyllfa yma barhau, gyda'r Cyngor yn amcangyfrif bwlch yn y gyllideb gwerth £26 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf (Ebrill 2027 i Fawrth 2028).

Mae eich barn a'ch safbwyntiau'n chwarae rhan wirioneddol bwysig yn y penderfyniadau yma, ac mae gwahanol ffyrdd i chi eu rhannu nhw gyda ni. Ar waelod y dudalen yma mae arolwg rydych chi'n gallu ei gwblhau ar-lein, neu mae modd gofyn am fersiwn wedi'i hargraffu (mae ein manylion cyswllt wedi'u nodi o dan “Pwy sy'n Gwrando”). Mae gennyn ni arolwg Hawdd ei Ddarllen hefyd i chi ei argraffu eich hun, neu mae modd gofyn i ni ei anfon atoch chi. Byddwn ni hefyd yn teithio o gwmpas Rhondda Cynon Taf i siarad â phobl yn y gymuned. Bwriwch olwg ar y rhestr o achlysuron i weld y lle agosaf i chi ddod i siarad â ni wyneb yn wyneb.

Hefyd, beth am roi tro ar ein Hefelychydd y Gyllideb rhyngweithiol, sy'n rhoi'r cyfle i chi weld holl wahanol rannau a gwasanaethau'r Cyngor sy'n cael eu hariannu. Fe gewch chi wedyn roi'ch barn ar sut ddylen ni ddyrannu’r arian sydd gennyn ni rhyngddyn nhw.

Ar ôl i'r ymgynghoriad yma ddod i ben ar 14 Rhagfyr 2026, byddwn ni'n trin a thrafod popeth rydych chi, pobl eraill, a staff y Cyngor, wedi'i ddweud wrthon ni. Yna byddwn ni'n ysgrifennu Strategaeth Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2027-28 ac yn gofyn i bawb eto am eu barn a'u safbwyntiau arni. Os hoffech chi gael neges e-bost pan fyddwn ni'n cyhoeddi'r Strategaeth Gyllideb Ddrafft, cliciwch yma i roi eich cyfeiriad e-bost i ni.

  • Cyflwyniad

    Bob blwyddyn mae rhaid i'r Cyngor benderfynu sut i ddefnyddio'r arian sydd ganddo yn y ffordd orau. Mae'r rhan fwyaf o'r arian yma (79%) yn dod gan Lywodraeth Cymru. Mae'r gweddill yn dod o Dreth y Cyngor. Os oes angen, mae'r Cyngor yn gallu cymryd arian o'i gronfeydd wrth gefn ei hun.

    Dros y blynyddoedd diwethaf mae cost cynnal gwasanaethau'r Cyngor wedi codi'n gyflymach na'r cyllid rydyn ni'n ei gael. Mae hyn yn golygu bod gennyn ni flwch, neu ddiffyg yn y gyllideb, ac mae rhaid i ni barhau i wneud dewisiadau anodd a phwysig i sicrhau bod y Cyngor yn parhau i reoli arian cyhoeddus yn dda. 

    Yn yr arolwg yma, rydyn ni eisiau clywed gennych chi am rai o'n cynlluniau. Hoffen ni hefyd glywed eich awgrymiadau ynglŷn â sut rydyn ni'n gallu gwneud pethau'n wahanol. Ar ôl i'r ymgynghoriad yma ddod i ben ar 14 Rhagfyr 2026, byddwn ni'n meddwl am bopeth mae pobl wedi'i ddweud wrthyn ni, gan gynnwys chi, y cyhoedd a staff y Cyngor. Yna byddwn ni'n ysgrifennu Strategaeth Gyllideb ddrafft ar gyfer 2027-28 ac yn gofyn i bawb am eu safbwyntiau a'u barn ar hynny hefyd.

    Diolch i chi am gymryd rhan. Mae wir yn ein helpu.

    Cwblhau'r Arolwg
    Rhannu Cyllideb 2027-28 ar Facebook Rhannu Cyllideb 2027-28 Ar Twitter Rhannu Cyllideb 2027-28 Ar LinkedIn E-bost Cyllideb 2027-28 dolen
  • E-bost
    Rhannu E-bost ar Facebook Rhannu E-bost Ar Twitter Rhannu E-bost Ar LinkedIn E-bost E-bost dolen
Diweddaru: 04 Tach 2026, 11:17 AC