Dewch i Siarad am y Gyllideb

Rhannu Dewch i Siarad am y Gyllideb ar Facebook Rhannu Dewch i Siarad am y Gyllideb Ar Twitter Rhannu Dewch i Siarad am y Gyllideb Ar LinkedIn E-bost Dewch i Siarad am y Gyllideb dolen

Consultation has concluded

Diolch i chi am gymryd rhan. Mae Cam 1 yr ymgynghoriad bellach wedi cau. Bydd Cam 2 yr ymgynghoriad yn cychwyn ym mis Ionawr 2022 a bydd yn ceisio barn ar Strategaeth Gyllideb arfaethedig ar gyfer 2022/23.

________________________________________________________________________________________________________

YMGYNGHORIAD – CYLLIDEB Y CYNGOR 2022/23

Mae'r Cyngor yn sefydliad mawr sy'n darparu ystod eang o wasanaethau ledled ardal Rhondda Cynon Taf, er enghraifft casglu gwastraff a deunydd ailgylchu trigolion, glanhau strydoedd, cartrefi i'r henoed, canolfannau hamdden, theatrau a darparu cyllid ar gyfer ein hysgolion a gweithio mewn partneriaeth â nhw i gynnig addysg o safon uchel i blant a phobl ifainc. Cyfanswm ei gyllideb refeniw net ar gyfer 2021/22 yw £528 miliwn. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu 77% o'r gyllideb yma (£404 miliwn), mae incwm Treth y Cyngor yn cyfrif am 22% (£119 miliwn) ac mae'r 1% sy'n weddill (£5 miliwn) yn dod o grant penodol ac o ddefnyddio cronfeydd wrth gefn y Cyngor ei hun.

Dydyn ni ddim wedi derbyn setliad Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn yma eto. O ganlyniad i hyn, bydd Ymgynghoriad Cyllideb Rhondda Cynon Taf ar gyfer eleni yn broses raddol, fel y gallwn ni sicrhau bod trigolion a rhanddeiliaid yn cael cymaint o gyfle â phosibl i rannu'u barn ar y gyllideb a sicrhau bod y farn honno yn cael ei llywio gan yr wybodaeth fwyaf diweddar a pherthnasol.

Cam 1

Bydd Cam 1 yn cychwyn 26 Hydref ac yn para tan 7 Rhagfyr 2021. Hoffen ni gael eich barn ar lefelau Treth y Cyngor, yr adnoddau sy'n cael eu dyrannu i ysgolion, ffioedd a thaliadau, blaenoriaethau gwariant a gwasanaeth, effeithlonrwydd, blaenoriaethau buddsoddi a Chynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor.