Dewch i Siarad Am Beth sy'n Bwysig i Chi

Rhannu Dewch i Siarad Am Beth sy'n Bwysig i Chi ar Facebook Rhannu Dewch i Siarad Am Beth sy'n Bwysig i Chi Ar Twitter Rhannu Dewch i Siarad Am Beth sy'n Bwysig i Chi Ar LinkedIn E-bost Dewch i Siarad Am Beth sy'n Bwysig i Chi dolen

Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi dod i ben. Mae canlyniadau'r prosiect yma bellach yn cael eu dadansoddi. Byddwn ni'n ychwanegu dolenni i adroddiadau a rhagor o wybodaeth pan maen nhw ar gael.

Mae'r Cyngor yn edrych ar yr hyn y mae angen iddo ei flaenoriaethu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf ac rydyn ni angen eich barn

Mae gwybodaeth a data gyda ni sydd ar gael yn eang am boblogaeth, amgylchedd, economi a diwylliant y Fwrdeistref Sirol. Mae gyda ni hefyd adborth o’r sgyrsiau ac arolygon niferus rydyn ni wedi’u cynnal gyda’n trigolion dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, gan gynnwys yn rhan o Asesiad Llesiant Cwm Taf Morgannwg, proses pennu cyllideb y Cyngor ar gyfer 2023/24 (Saesneg yn unig), y Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer RhCT ac ar gyfer llawer o'n gwasanaethau. Mae modd gweld yr holl arolygon ac ati gwahanol yma. Mae hyn yn golygu bod gyda ni rywfaint o wybodaeth am beth rydyn ni'n meddwl yr hoffech chi i ni ganolbwyntio arno i gychwyn. Pethau fel

  • Rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant a phobl ifainc, ac i ddysgu a thyfu'n ddiogel.
  • Creu cyfleoedd i drigolion ofalu am eu hiechyd a'u lles fel bod modd iddyn nhw fyw bywydau iach, annibynnol a boddhaus.
  • Amddiffyn, gofalu am a chefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed pan nad oes modd iddyn nhw wneud hynny eu hunain mwyach, a'i gwneud yn hawdd iddyn nhw gael yr hyn sydd ei angen arnyn nhw.
  • Canol trefi sy'n fywiog, yn hygyrch ac yn lleoedd diogel y mae pobl eisiau ymweld â nhw a lle mae busnesau'n ffynnu.
  • Gwneud yr hyn y gallwn i helpu trigolion, cymunedau a'r byd natur i baratoi ar gyfer ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd.
  • Amgylchedd naturiol ac adeiledig glân a gwyrdd mae modd i bawb ei fwynhau a bod yn falch ohono.
  • Cydnabyddiaeth o ddiwylliant a threftadaeth fywiog ein cymunedau, lle rydyn ni'n trin ein gilydd â pharch ac yn dathlu amrywiaeth fel cryfder.
  • Cyngor sy’n cael ei redeg yn dda sy’n darparu gwasanaethau rhagorol, yn gwneud y defnydd gorau o’i adnoddau a’i werthoedd ac yn gofalu am ei staff fel bod modd iddyn nhw wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau.

Llenwch yr arolwg cyflym i roi gwybod i ni os ydyn ni'n gywir

Defnyddiwch yr adran syniadau i ychwanegu unrhyw beth rydyn ni wedi'i golli

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth yma ac adborth arall i baratoi gwybodaeth fanylach i chi wrth i ni ddatblygu ein Cynllun Corfforaethol newydd. Bydd eich barn a'ch awgrymiadau yn y cyfnod cynnar yma'n ein helpu i ddeall yn well yr hyn sy'n bwysig i chi a'ch teulu, nawr ac yn y dyfodol.

Cefndir gosod eich blaenoriaethau ar gyfer y Cyngor

Ers 2016, mae gwaith ac adnoddau'r Cyngor wedi bod yn canolbwyntio ar gyflawni blaenoriaethau y mae ein trigolion, cymunedau a busnesau wedi dweud wrthyn nhw sy'n bwysig iddyn nhw. Dyma'r blaenoriaethau sydd wedi bod ar waith ers 2020 ac sydd wedi'u cynnwys yn ein Cynllun Corfforaethol 'Gwneud Gwahaniaeth' presennol:

  • Sicrhau bod POBL yn annibynnol, yn iach ac yn llwyddiannus
  • Creu LLEOEDD lle mae pobl yn falch o gael byw, gweithio a chwarae ynddyn nhw
  • Galluogi FFYNIANT, gan greu'r cyfle i bobl a busnesau fod yn arloesol, yn entrepreneuraidd, cyflawni eu potensial a ffynnu.

Mae ein cynnydd wedi cael ei fonitro gan Gynghorwyr bob tri mis mewn adroddiadau i'r Cabinet. Mae'r adroddiadau hyn ar gael i unrhyw un fwrw golwg arnyn nhw ac mae modd eu gweld yma. Er gwaethaf yr aflonyddwch i lawer o’n gwasanaethau yn ystod Covid, gwnaethon ni gynnydd da o ran cyflawni’r hyn roedden ni'n bwriadu ei gyflawni, ond rydyn ni'n gwybod bod rhagor i’w wneud.

Bydd y Cynllun Corfforaethol, sy'n cynnwys blaenoriaethau cyfredol y Cyngor, yn dod i ben yn 2024.

Mae angen adolygu a diweddaru’r hyn mae ein gwaith yn canolbwyntio arno a bydd yr wybodaeth rydych chi'n ei rhoi yn helpu i lywio ein cynllun newydd a fydd yn rhedeg o 2024. Mae ein dyraniad o'r gyllideb yn golygu nad oes modd i ni wneud popeth yr hoffen ni ei wneud, felly bydd angen gwneud rhai dewisiadau anodd hefyd wrth i ni osod ein blaenoriaethau newydd.

Diweddaru: 22 Rhag 2023, 01:36 PM