Yn ein sgwrs ddiwethaf, fe wnaethon ni ddangos i chi'r ymrwymiadau roedden ni eisiau eu rhoi ar waith yn ein 'Strategaeth Mynd i'r Afael â’r Newid yn yr Hinsawdd (2022-25) - Hinsawdd Ystyriol RhCT'. Gofynnon ni p'un a oeddech chi'n cytuno â’n cynlluniau:
- Roedd 90% naill ai’n cytuno neu'n cytuno'n gryf â’n hymrwymiadau o ran LLEOEDD.
- Roedd 90% naill ai’n cytuno neu'n cytuno'n gryf â’n hymrwymiadau o ran FFYNIANT.
- Roedd 87% naill ai’n cytuno neu'n cytuno'n gryf â’n hymrwymiadau o ran POBL.
Mae'r Cyngor yn gweithio bob dydd i gyflawni'r ymrwymiadau yma er mwyn sicrhau ein bod ni'n sefydliad Carbon Niwtral erbyn 2030. Ond mae’n stori wahanol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol gyfan... does dim modd i ni fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ar ein pennau ein hunain, ond gyda'n gilydd, mae modd i ni wneud gwahaniaeth mawr.
Mae'r bwyd rydyn ni'n ei fwyta, y ffordd rydyn ni'n teithio, yr ynni rydyn ni'n ei ddefnyddio i bweru ein hadeiladau, y ffordd rydyn ni’n cael gwared ar ein hen bethau, a'r ffordd rydyn ni'n defnyddio ein dylanwad a'n llais ein hunain, i gyd yn effeithio ar y newid yn yr hinsawdd a lle rydyn ni'n byw. Ond beth sy'n ein rhwystro ni rhag cymryd camau gweithredu? Beth sy'n ein rhwystro ni rhag bod yn wyrdd?
Yn yr arolwg yma, byddwn ni'n nodi gweithgareddau/ymddygiadau cynaliadwy poblogaidd rydyn ni'n cael ein hannog i'w gwneud yn aml. Hoffen ni i chi nodi'r rhwystrau mwyaf cyffredin i'r gweithgareddau/ymddygiadau yma, boed hynny gartref, yn y gwaith neu yn ein dewisiadau ffordd o fyw.
Hyd yn oed os ydych chi'n hyrwyddwr gwyrdd ac rydych chi wedi ymgorffori’r holl arferion cynaliadwy yma yn y ffordd rydych chi'n byw eich bywyd, a fyddech cystal â rhoi tic yn y blychau i nodi beth yw’r rhwystrau mwyaf cyffredin yn eich barn chi.