Dewch i Siarad am y Newid yn yr Hinsawdd

Rhannu Dewch i Siarad am y Newid yn yr Hinsawdd ar Facebook Rhannu Dewch i Siarad am y Newid yn yr Hinsawdd Ar Twitter Rhannu Dewch i Siarad am y Newid yn yr Hinsawdd Ar LinkedIn E-bost Dewch i Siarad am y Newid yn yr Hinsawdd dolen

Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi dod i ben. Mae canlyniadau'r prosiect yma bellach yn cael eu dadansoddi. Byddwn ni'n ychwanegu dolenni i adroddiadau a rhagor o wybodaeth pan maen nhw ar gael.

Shwmae!

Yn ein sgwrs gyntaf am yr hinsawdd fe wnaethoch chi roi gwybodaeth i ni a'n helpodd ni i gryfhau a llywio'r ymrwymiadau yn ein Strategaeth Mynd i'r Afael â’r Newid yn yr Hinsawdd (2022-25) - Hinsawdd Ystyriol RhCT' y cytunodd y Cabinet arni ym mis Mehefin 2022. Mae modd i chi ddod o hyd i'r adborth isod, neu ar y dde os ydych chi’n defnyddio cyfrifiadur.

Rydyn ni'n gweithio tuag at gyflawni'r ymrwymiadau yma a’r targedau rydyn ni wedi'u gosod i leihau allyriadau carbon ledled Rhondda Cynon Taf. O blith y nifer o bethau y gwnaethoch chi roi gwybod i ni amdanyn nhw oedd bod rhwystrau a oedd yn eich atal hi rhag chwarae eich rhan chi'n llawn. Rydyn ni eisiau gwybod rhagor am y rhwystrau yma.

Ar y dudalen yma, byddwch chi'n dod o hyd i arolwg ar-lein lle mae modd i chi nodi beth sy'n eich atal chi a'ch teulu rhag bod yn fwy ystyriol o'r hinsawdd gartref, yn y gwaith a phan rydych chi'n gwneud dewisiadau gwario a ffordd o fyw gwahanol. Bydd yr wybodaeth yma'n helpu'r Cyngor i dargedu'r cyngor, awgrymiadau a gwybodaeth a fydd yn ein helpu ni i gyd i wario llai, gwastraffu llai a chynhyrchu llai o garbon fel bod modd i ni Ddefnyddio Llai. Gwastraffu Llai. Arbed Mwy.

Drwy edrych ar sut a ble rydyn ni'n gwario, mae modd i ni arbed arian a chwarae ein rhan ni i warchod y blaned e.e. gall siopa’n lleol, mynd ar fws, trên neu gerdded yn lle gyrru, defnyddio llai o ynni, bwyta mwy o brydau sy’n deillio o blanhigion, bwyta llai o gig a newid sut rydyn ni'n cael gwared ar ein sbwriel helpu i arbed arian yn ogystal â charbon. Bwriwch olwg ar ein dolenni defnyddiol am ragor o wybodaeth ar sut i arbed arian a bod yn 'wyrddach'.

Does dim angen i ni fod yn berffaith wrth helpu'r blaned. Pe baen ni i gyd yn newid un peth bach heddiw, yfory neu eleni, gallai wneud gwahaniaeth mawr i'r blaned ac i'n pocedi

  • Dylai'r arolwg yma gymryd tua 10 munud i’w lenwi  

    Take Survey
    Rhannu Beth am fod yn wyrddach? ar Facebook Rhannu Beth am fod yn wyrddach? Ar Twitter Rhannu Beth am fod yn wyrddach? Ar LinkedIn E-bost Beth am fod yn wyrddach? dolen
Diweddaru: 02 Chwef 2024, 03:39 PM