Rhannu Dewch i Siarad am y Newid yn yr Hinsawdd ar FacebookRhannu Dewch i Siarad am y Newid yn yr Hinsawdd Ar TwitterRhannu Dewch i Siarad am y Newid yn yr Hinsawdd Ar LinkedInE-bost Dewch i Siarad am y Newid yn yr Hinsawdd dolen
Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi dod i ben. Mae canlyniadau'r prosiect yma bellach yn cael eu dadansoddi. Byddwn ni'n ychwanegu dolenni i adroddiadau a rhagor o wybodaeth pan maen nhw ar gael.
Shwmae!
Yn ein sgwrs gyntaf am yr hinsawdd fe wnaethoch chi roi gwybodaeth i ni a'n helpodd ni i gryfhau a llywio'r ymrwymiadau yn ein Strategaeth Mynd i'r Afael â’r Newid yn yr Hinsawdd (2022-25) - Hinsawdd Ystyriol RhCT' y cytunodd y Cabinet arni ym mis Mehefin 2022. Mae modd i chi ddod o hyd i'r adborth isod, neu ar y dde os ydych chi’n defnyddio cyfrifiadur.
Rydyn ni'n gweithio tuag at gyflawni'r ymrwymiadau yma a’r targedau rydyn ni wedi'u gosod i leihau allyriadau carbon ledled Rhondda Cynon Taf. O blith y nifer o bethau y gwnaethoch chi roi gwybod i ni amdanyn nhw oedd bod rhwystrau a oedd yn eich atal hi rhag chwarae eich rhan chi'n llawn. Rydyn ni eisiau gwybod rhagor am y rhwystrau yma.
Ar y dudalen yma, byddwch chi'n dod o hyd i arolwg ar-lein lle mae modd i chi nodi beth sy'n eich atal chi a'ch teulu rhag bod yn fwy ystyriol o'r hinsawdd gartref, yn y gwaith a phan rydych chi'n gwneud dewisiadau gwario a ffordd o fyw gwahanol. Bydd yr wybodaeth yma'n helpu'r Cyngor i dargedu'r cyngor, awgrymiadau a gwybodaeth a fydd yn ein helpu ni i gyd i wario llai, gwastraffu llai a chynhyrchu llai o garbon fel bod modd i ni Ddefnyddio Llai. Gwastraffu Llai. Arbed Mwy.
Drwy edrych ar sut a ble rydyn ni'n gwario, mae modd i ni arbed arian a chwarae ein rhan ni i warchod y blaned e.e. gall siopa’n lleol, mynd ar fws, trên neu gerdded yn lle gyrru, defnyddio llai o ynni, bwyta mwy o brydau sy’n deillio o blanhigion, bwyta llai o gig a newid sut rydyn ni'n cael gwared ar ein sbwriel helpu i arbed arian yn ogystal â charbon. Bwriwch olwg ar ein dolenni defnyddiol am ragor o wybodaeth ar sut i arbed arian a bod yn 'wyrddach'.
Does dim angen i ni fod yn berffaith wrth helpu'r blaned. Pe baen ni i gyd yn newid un peth bach heddiw, yfory neu eleni, gallai wneud gwahaniaeth mawr i'r blaned ac i'n pocedi