Dewch i Siarad am eich Barn

Rhannu Dewch i Siarad am eich Barn ar Facebook Rhannu Dewch i Siarad am eich Barn Ar Twitter Rhannu Dewch i Siarad am eich Barn Ar LinkedIn E-bost Dewch i Siarad am eich Barn dolen

Rydyn ni wrthi'n llunio ein Strategaeth Ymgysylltu a Chymryd Rhan newydd – bydd yn esbonio'r canlynol:

  • sut rydyn ni'n bwriadu siarad â'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn RhCT
  • sut rydyn ni'n bwriadu sicrhau ein bod ni'n rhoi cyfle i gynifer o bobl â phosibl gymryd rhan yn yr hyn mae'r Cyngor yn ei wneud
  • sut byddwn ni'n sicrhau bod y bobl sy'n gwneud penderfyniadau'n gwrando ar y meddyliau a'r safbwyntiau hynny

A ninnau'n Gyngor, rydyn ni'n gwybod bod gyda ni ddyletswydd i'ch cynnwys yn ein cynlluniau – mae gwybod am yr hyn y mae pobl RhCT ei eisiau a sut maen nhw eisiau i ni weithio'n ddefnyddiol iawn i ni! Mae sawl ffordd o rannu eich meddyliau a'ch barn gyda Chyngor RhCT, ond hoffen ni glywed gennych chi am sut mae modd i ni wneud y sgyrsiau yma hyd yn oed yn well.

Mynegwch eich barn!

Ar y dudalen yma, byddwch chi'n cael gwybodaeth am sut rydyn ni'n gweithio nawr, a sut rydyn ni'n cynllunio i weithio gyda thrigolion, cymunedau a rhanddeiliad a'r hyn y gallwn ni ei wella fel bod modd i ragor o bobl gymryd rhan yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw ac ar eu cymunedau trwy ein strategaeth ddrafft newydd.

Mae rhai adnoddau isod sy'n gofyn i chi sawl peth rydyn ni'n credu bod angen i ni ei wneud er mwyn gwella'n ffordd o ymgysylltu â chi.

Rydyn ni hefyd yn cynllunio cyfres o achlysuron wyneb yn wyneb yn y gymuned, lle gall pobl rannu eu syniadau a thrafod ein cynlluniau. Pan fydd y rhain wedi'u cadarnhau, byddan nhw'n cael eu rhestru yn y blwch ar ochr dde'r dudalen yma.

Pe hoffech chi gysylltu â ni mewn modd arall, mae'r manylion wedi'u rhestru ar waelod y dudalen ar y dde.

Rhannu Eich Barn yn Eich Cymuned ar Facebook Rhannu Eich Barn yn Eich Cymuned Ar Twitter Rhannu Eich Barn yn Eich Cymuned Ar LinkedIn E-bost Eich Barn yn Eich Cymuned dolen

Eich Barn yn Eich Cymuned

29 Diwrnod

Os ydych chi'n gwybod am le neu grŵp yn eich cymuned rydych chi'n meddwl y gall y Cyngor ymweld â nhw er mwyn cael eich barn, rhowch wybod i ni.

Rydyn ni eisiau gwneud yn siwr bod pawb sy'n byw yn RhCT yn gallu rhannu eu barn gyda ni. Mae ein hadnoddau ar-lein ar gael yn gyson, ond rydyn ni hefyd eisiau gwneud yn siwr bod achlysuron a sesiynau wyneb yn wyneb yn cael eu trefnu mewn amrywiaeth o lefydd, ac ar amseroedd gwahanol, er mwyn rhoi cyfle i gynifer o bobl â phosibl gymryd rhan. 

Cofiwch ychwanegu pinnau i'r map yma er mwyn dweud wrthon ni am le neu grŵp yn Rhondda Cynon Taf rydych chi'n meddwl a all helpu gyda'n trafodaethau!

Diweddaru: 28 Meh 2024, 09:21 AC