Cwestiynau Cyffredinol
- Gall Cymryd Rhan olygu pethau gwahanol i bobl wahanol a chwmpasu nifer o ymagweddau. Mae RhCT yn canolbwyntio ar bedair lefel o Gymryd Rhan:
- 1. Darparu gwybodaeth - rhoi gwybodaeth i bobl er mwyn codi ymwybyddiaeth. Dyma'r lefel cymryd rhan fwyaf hawdd a syml.
- 2. Ymgynghori - darparu'r cyfle i bobl roi adborth ar eu safbwyntiau a'u barn ar gwestiynau, polisïau neu newidiadau gwasanaeth penodol.
- 3. Ymgysylltu - proses gyfranogol lle gall pobl ddylanwadu a llywio polisïau a newidiadau polisi'n gynharach.
- 4. Cyd-gynhyrchu - mae hyn yn ymwneud â datblygu cynlluniau mewn partneriaeth gyfartal o drigolion a gweithwyr proffesiynol er mwyn dylunio, cynllunio a darparu cymorth gyda'i gilydd, gan gydnabod bod gan bawb ran i'w chwarae. Mae'r Cyngor yn nodi pwysigrwydd datblygu rhagor o ddulliau o gymryd rhan sy'n cael eu cyd-gynhyrchu, lle mae unigolion a chymunedau'n cael cynigion i gyfrannu a llywio'r broses penderfynu ar bob adeg o unrhyw brosiect.
Beth yw Cymryd Rhan? Pam mae e'n bwysig?