Dewch i Siarad am Lifogydd

Rhannu Dewch i Siarad am Lifogydd ar Facebook Rhannu Dewch i Siarad am Lifogydd Ar Twitter Rhannu Dewch i Siarad am Lifogydd Ar LinkedIn E-bost Dewch i Siarad am Lifogydd dolen

Helpwch ni i ddatblygu Strategaeth Gyfathrebu a Chynllun Gweithredu Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn datblygu Strategaeth Gyfathrebu a Chynllun Gweithredu Rheoli Perygl Llifogydd i wella sut rydyn ni'n rhannu gwybodaeth ynglŷn â pherygl llifogydd a helpu cymunedau i baratoi ar gyfer llifogydd, ymateb iddyn nhw, ac adfer ar ôl achosion o lifogydd.

Mae'r Cyngor eisiau deall:

  • Pa mor effro yw pobl i berygl llifogydd;
  • Pa mor barod mae pobl yn teimlo ar gyfer llifogydd;
  • Sut mae pobl yn derbyn gwybodaeth ar hyn o bryd; a
  • Sut yr hoffen nhw dderbyn gwybodaeth yn y dyfodol.

Bydd eich ymatebion yn helpu i lunio dull y Cyngor yn y dyfodol o ran cyfathrebu ac ymgysylltu â thrigolion, busnesau a chymunedau mewn perthynas â pherygl llifogydd.

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal am 6 wythnos rhwng 10 Awst 2026 a 21 Medi 2026.

Cyd-destun

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yw'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ar gyfer ei ardal weinyddol, ac o dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, mae ganddo ddyletswydd i ddatblygu Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol.

Mae ail Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a'r Cynlluniau Gweithredu cysylltiedig ar gael ar wefan y Cyngor. Mae'r Cynllun Gweithredu wedi'i ddiweddaru, a bellach yn berthnasol i’r cyfnod rhwng 2026 a 2028, yn cynnwys camau gweithredu i ddatblygu Strategaeth Gyfathrebu, a Chynllun Gweithredu cysylltiedig, sefydlu fframwaith cydlynol ar gyfer cyfathrebu ynghylch perygl llifogydd a gweithgarwch rheoli perygl llifogydd ledled Rhondda Cynon Taf.

Mae Strategaeth Gyfathrebu Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor yn ceisio gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o berygl llifogydd, annog parodrwydd a chymryd camau gweithredu gwybodus, a chefnogi’r gwaith o ddatblygu cydnerthedd unigolion a chymunedau yn Rhondda Cynon Taf.

Nod yr ymgynghoriad cyhoeddus yma yw casglu barn, profiadau a disgwyliadau trigolion, busnesau a rhanddeiliaid eraill er mwyn helpu i lywio cynnwys a blaenoriaethau'r Strategaeth Gyfathrebu ddrafft.

Ar ôl i ni lunio fersiwn ddrafft, bydd y Strategaeth Gyfathrebu hefyd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus pellach yn y dyfodol. Bydd modd i drigolion ddweud eu dweud cyn i'r Strategaeth derfynol gael ei thrafod gan Aelodau'r Cabinet yn y dyfodol.

  • Bydd eich ymatebion yn helpu i lunio dull y Cyngor yn y dyfodol o gyfathrebu ac ymgysylltu ag unigolion a chymunedau mewn perthynas â pherygl llifogydd. 

    Datganiad Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol

    Bydd unrhyw wybodaeth yn cael ei defnyddio at y dibenion y cafodd ei chyflwyno (fel y nodwyd uchod) yn unig. Byddwn ni'n ymdrin â'r holl wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei derbyn yn unol â Pholisi Diogelu Data'r Cyngor a'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Fydd dim gwybodaeth bersonol yn cael ei chynnwys yr adroddiad. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni'n prosesu eich gwybodaeth bersonol, ewch i dudalennau Diogelu Data'r Cyngor.

    Cwblhau'r Arolwg
    Rhannu Ymgynghoriad Cyhoeddus er mwyn llywio datblygiad Strategaeth Gyfathrebu a Chynllun Gweithredu Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor ar Facebook Rhannu Ymgynghoriad Cyhoeddus er mwyn llywio datblygiad Strategaeth Gyfathrebu a Chynllun Gweithredu Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor Ar Twitter Rhannu Ymgynghoriad Cyhoeddus er mwyn llywio datblygiad Strategaeth Gyfathrebu a Chynllun Gweithredu Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor Ar LinkedIn E-bost Ymgynghoriad Cyhoeddus er mwyn llywio datblygiad Strategaeth Gyfathrebu a Chynllun Gweithredu Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor dolen
Diweddaru: 10 Awst 2026, 01:58 PM