Cam 2 Cyllideb 2026 - 2027

Rhannu Cam 2 Cyllideb 2026 - 2027 ar Facebook Rhannu Cam 2 Cyllideb 2026 - 2027 Ar Twitter Rhannu Cam 2 Cyllideb 2026 - 2027 Ar LinkedIn E-bost Cam 2 Cyllideb 2026 - 2027 dolen

Ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2025, fe wnaethon ni ofyn i bobl sy'n byw ac yn gweithio yn RhCT am eu barn nhw ynglŷn â'r hyn roedden nhw'n dymuno i ni ei ystyried yn rhan o'r Strategaeth Gyllideb. Mae modd i chi weld adroddiad yr ymgynghoriad hwnnw yma.

Ar 20 Ionawr 2026, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Setliad Llywodraeth Leol terfynol ar gyfer 2026/27. Dyma'r cyllid mae Cynghorau ledled Cymru yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n ffurfio prif ran ein cyllideb flynyddol.

Mae'r setliad terfynol ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn dangos cynnydd o 4.5%, sydd yr un fath â'r cyfartaledd ledled Cymru.

Mae'r setliad cyffredinol yn well na'r hyn a ddisgwyliwyd a bydd yn darparu cyllid ychwanegol i Gyngor Rhondda Cynon Taf, fel pob Cyngor ledled Cymru. Fodd bynnag, mae'r pwysau rydyn ni'n eu hwynebu o ran y gyllideb a gwariant wedi parhau i gynyddu. Mae'r rhagolygon y tu hwnt i 2026/27 yn parhau i fod yn ansicr ac mae'r wybodaeth sydd gyda ni ar hyn o bryd yn awgrymu y bydd yn parhau i fod yn heriol.

Yn rhan o'n cyfrifiadau cychwynnol, a luniwyd ym mis Medi 2025, nodwyd y byddwn ni'n wynebu bwlch yn y gyllideb (sef y gwahaniaeth rhwng y swm o arian sydd ei angen arnom ni a'r cyllid sydd gyda ni) gwerth £22.5 miliwn y flwyddyn nesaf. O ganlyniad i gyllid ychwanegol sydd wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru drwy'r setliad ac yn sgil rhaglen waith sylweddol sydd wedi'i chynnal ym mhob rhan o'r Cyngor i nodi arbedion posibl, rydyn ni bellach yn wynebu bwlch yn y gyllideb gwerth £6.4 miliwn.

Mae Uwch Reolwyr y Cyngor wedi ystyried yr holl wybodaeth yma, gan gynnwys adborth o gam 1 yr ymgynghoriad. Maen nhw hefyd wedi llunio cyfres o gynigion y mae modd i Aelodau Etholedig eu darllen a'u trafod cyn pleidleisio mewn perthynas â'r mater. Bydd hyn yn digwydd yn ystod y cyfarfod o'r Cyngor Llawn sy'n cael ei gynnal ar 4 Mawrth 2026.

Mae gan bobl sy'n byw ac yn gweithio yn RhCT gyfle i gymryd rhan yn ail gam yr ymgynghoriad cyn y cyfarfod hwnnw. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i chi am rannu eich barn a'ch safbwyntiau mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol nesaf (Ebrill 2026 - Mawrth 2027) – manteisiwch ar y cyfle i ddweud eich dweud trwy gwblhau'r arolwg isod.

Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad yma'n cael eu rhannu ar y dudalen hon yn rhan o adroddiad cyn gynted ag y byddan nhw'n barod.

  • Rydyn ni wedi cyrraedd Cam 2 o'r broses ymgynghori mewn perthynas â phenderfynu ar Strategaeth Gyllideb 2026 - 2027 Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Cafodd Cam 1 ei gynnal rhwng 3 Tachwedd a 15 Rhagfyr 2025 ac roedd yn ceisio barn pobl ar flaenoriaethau ariannol y Cyngor. Mae modd i chi fwrw golwg ar adroddiad yr ymgynghoriad Cam 1 ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

    Yn ystod Cam 2, hoffen ni geisio'ch barn chi ynghylch penderfyniadau penodol y mae'n rhaid eu gwneud mewn perthynas â chyllideb 2026 – 2027. Bydd cyfarfod o Gabinet y Cyngor yn cael ei gynnal ar 23 Chwefror i lunio'r Strategaeth Gyllideb derfynol. Bydd y Cyngor Llawn yn gwneud penderfyniad mewn perthynas â’r Strategaeth derfynol yn ystod cyfarfod nesaf y Cyngor Llawn ar 4 Mawrth. 

    Mae'r cynigion sydd wedi'u cynnwys yn yr arolwg yma wedi'u cynnig gan Uwch Reolwyr CBSRhCT a hynny ar ôl iddyn nhw ystyried y sefyllfa ariannol gyfredol yn RhCT, yn ogystal â'r ymatebion i'r ymgynghoriad Cam 1 a'r anghenion gwasanaeth a ragwelir ym mhob rhan o'r Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

    Sut byddwn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol:

    Dim ond at ddibenion yr ymgynghoriad yma y bydd yr wybodaeth rydych chi'n ei rhoi yn cael ei defnyddio. I gael manylion am sut mae eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio, ewch i Hysbysiad Preifatrwydd ynghylch Ymgynghori a Thudalennau Diogelu Data'r Cyngor. 

    Cymerwch ran nawr!
    Rhannu Arolwg – Strategaeth Gyllideb 2026 – 2027 Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar Facebook Rhannu Arolwg – Strategaeth Gyllideb 2026 – 2027 Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Ar Twitter Rhannu Arolwg – Strategaeth Gyllideb 2026 – 2027 Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Ar LinkedIn E-bost Arolwg – Strategaeth Gyllideb 2026 – 2027 Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf dolen
Diweddaru: 03 Chwef 2026, 11:44 AC