Dewch i Siarad am eich Barn

Rhannu Dewch i Siarad am eich Barn ar Facebook Rhannu Dewch i Siarad am eich Barn Ar Twitter Rhannu Dewch i Siarad am eich Barn Ar LinkedIn E-bost Dewch i Siarad am eich Barn dolen

Rydyn ni wrthi'n llunio ein Strategaeth Ymgysylltu a Chymryd Rhan newydd – bydd yn esbonio'r canlynol:

  • sut rydyn ni'n bwriadu siarad â'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn RhCT
  • sut rydyn ni'n bwriadu sicrhau ein bod ni'n rhoi cyfle i gynifer o bobl â phosibl gymryd rhan yn yr hyn mae'r Cyngor yn ei wneud
  • sut byddwn ni'n sicrhau bod y bobl sy'n gwneud penderfyniadau'n gwrando ar y meddyliau a'r safbwyntiau hynny

A ninnau'n Gyngor, rydyn ni'n gwybod bod gyda ni ddyletswydd i'ch cynnwys yn ein cynlluniau – mae gwybod am yr hyn y mae pobl RhCT ei eisiau a sut maen nhw eisiau i ni weithio'n ddefnyddiol iawn i ni! Mae sawl ffordd o rannu eich meddyliau a'ch barn gyda Chyngor RhCT, ond hoffen ni glywed gennych chi am sut mae modd i ni wneud y sgyrsiau yma hyd yn oed yn well.

Mynegwch eich barn!

Ar y dudalen yma, byddwch chi'n cael gwybodaeth am sut rydyn ni'n gweithio nawr, a sut rydyn ni'n cynllunio i weithio gyda thrigolion, cymunedau a rhanddeiliad a'r hyn y gallwn ni ei wella fel bod modd i ragor o bobl gymryd rhan yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw ac ar eu cymunedau trwy ein strategaeth ddrafft newydd.

Mae rhai adnoddau isod sy'n gofyn i chi sawl peth rydyn ni'n credu bod angen i ni ei wneud er mwyn gwella'n ffordd o ymgysylltu â chi.

Rydyn ni hefyd yn cynllunio cyfres o achlysuron wyneb yn wyneb yn y gymuned, lle gall pobl rannu eu syniadau a thrafod ein cynlluniau. Pan fydd y rhain wedi'u cadarnhau, byddan nhw'n cael eu rhestru yn y blwch ar ochr dde'r dudalen yma.

Pe hoffech chi gysylltu â ni mewn modd arall, mae'r manylion wedi'u rhestru ar waelod y dudalen ar y dde.

  • Rhannu Sut gallwn ni wella'r ffordd rydyn ni'n gofyn am eich barn? ar Facebook Rhannu Sut gallwn ni wella'r ffordd rydyn ni'n gofyn am eich barn? Ar Twitter Rhannu Sut gallwn ni wella'r ffordd rydyn ni'n gofyn am eich barn? Ar LinkedIn E-bost Sut gallwn ni wella'r ffordd rydyn ni'n gofyn am eich barn? dolen

    Os oes gyda chi unrhyw syniadau am ffyrdd y gall y Cyngor wella'r ffordd rydyn ni'n siarad â phobl sy'n byw ac yn gweithio yn RhCT, nodwch nhw yma.

    Dechreuwch drwy gyflwyno syniad
Diweddaru: 02 Jul 2024, 02:05 PM